Cymraeg dros y byd

  • Cyhoeddwyd
skyp

Y cyfan sydd ei angen yw gwe gamera a chysylltiad gyda'r rhyngrwyd ac fe fedrwch chi fanteisio ar wersi Cymraeg arloesol Llinos Griffin.

Yn wreiddiol o Lanfrothen, mae Llinos wedi teithio'r byd yn dysgu Cymraeg ond erbyn hyn mae'r byd yn dod ati hi i Gricieth er mwyn gwellau eu defnydd o'r heniaith.

Bu Llinos yn sôn mwy am y gwasanaeth y mae hi'n ei gynnig trwy ei chwmni, Gwefus:

Miami, Stockholm... a Llanrug!

Dwi wedi dysgu Cymraeg a Saesneg i bobl yn Ffrainc, Sbaen a'r Ariannin ac am bedair blynedd mi fues i yn diwtor yng Nghanolfan Iaith Nant Gwrtheyrn.

Mae gen i brofiad hefyd o weithio i gwmïau teledu felly mae'r fenter yma yn plethu'r ddau beth ynghyd i raddau. Nes i sylweddoli bod pobl yn ei chael hi'n anodd ffitio popeth i mewn gan bod eu bywydau mor brysur.

Roedden nhw'n ei chael hi'n anodd i deithio i wersi ar amser penodol pob wythnos. Ond diolch i'r we a gwasanaeth Skype does dim angen iddyn nhw (na finnau) adael y tŷ neu'r swyddfa!

Ar hyn o bryd mae gen i 25 o ddysgwyr mewn llefydd fel Miami, Stockholm, Madrid, Paris... a Llanrug! Mae'r rhan fwyaf ohonyn nhw sydd dramor o dras Cymreig ac mae eraill yn ceisio gloywi eu hiaith gan eu bod wedi bod oddi gartre' am gyfnod go hir.

Dechreuodd y galw am y gwersi dyfu wedi i mi hysbysebu fy ngwasanaeth ar Facebook ac ar y we dros 18 mis yn ôl.

Mae gallu cynnal gwersi wyneb yn wyneb dros y we yn gymorth mawr dwi'n credu. Mae'n gorfodi'r unigolion sy'n dysgu i ganolbwyntio yn well yn ystod yr awr y byddai'n cynnal y wers. Maen nhw hefyd yn gallu gweld siâp y geg wrth ffurfio rhai geiriau sy'n anoddach iddyn nhw.

Disgrifiad o’r llun,

Llinos Griffin

Adolygu

Cyn y wers byddai wedi anfon deunydd adolygu iddyn nhw ar e-bost. Dwi wedi llunio fy ngwersi fy hun ar gyfer ystod eang o ddysgwyr - o'r dechreuwyr i'r rhai sydd bron yn rhugl. Mi fyddwn ni hefyd yn trafod llyfrau addas iddyn nhw eu darllen. Mae hynny yn dibynnu ar eu hyder a'u dealltwriaeth o'r iaith.

O fedru astudio gartre' dwi'n credu bod dechreuwyr yn cael llai o ddychryn o weld beth sydd o'u blaenau ac wrth siarad wyneb yn wyneb gallwn drafod patrymau'r gwersi a'u haddasu.

Mae'r dysgwyr mwy rhugl yn falch o gael y cyfle i ymarfer gan ei bod hi'n rhwystredig iddyn nhw dramor. Dydy hi ddim yn hawdd cael sgwrs yn y Gymraeg ar strydoedd Paris!

Mae gen i ddau yn America sydd bellach yn rhugl ac maen nhw'n rhannu eu profiadau gyda chymdeithasau Cymraeg yno. Maen nhw hefyd yn cael cyfle i gryfhau eu gafael ar yr iaith mewn cyrsiau Cymraeg sydd yn cael eu cynnal yn y wlad mewn rhai rhannau o'r wlad yn ystod misoedd yr haf.

Mae'r dechnoleg wedi ei gwneud hi'n haws i bobl o bob oed ddod o hyd i amser cyfleus i fedru mynd i'r afael â dysgu'r iaith. Yma yng Nghymru mae gen i wersi rheolaidd dros y we efo pobl yn Llanrug, Trawsfynydd a Harlech. Fydda hi ddim yn ymarferol iddyn nhw ddod yma ata i yn gyson i Gricieth i gael gwersi oherwydd galwadau gwaith a theulu ac yn y blaen.

Fy ngobaith i'r flwyddyn nesa' ydy gallu cynnal mwy o ddosbarthiadau a thynnu athrawon eraill i mewn i fy helpu gyda'r gwaith.

Dwi wedi mwynhau teithio erioed a dysgu am ddiwylliannau ac arferion eraill y byd, ond diolch i'r we a'r gwe gamera mi alla i barhau i gyfarfod pobl newydd ac ehangu fy ngwybodaeth am eu gwledydd trwy ddefnyddio'r iaith Gymraeg - a hynny heb adael Cricieth.

Disgrifiad o’r llun,

Ffordd newydd o ddysgu!