Dysgu Cymraeg am wahanol resymau mewn gwahanol ardaloedd

  • Cyhoeddwyd
cadair cymraeg

Mae canlyniadau arolwg newydd yn awgrymu fod gan ddysgwyr Cymraeg wahanol resymau dros ddysgu'r iaith yn dibynnu ar ba ardal maen nhw'n byw ynddi.

Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol sy'n gyfrifol am yr arolwg, wedi i'r corff newydd gymryd cyfrifoldeb dros y maes Cymraeg i Oedolion.

Byw mewn cymuned Gymraeg yw'r prif reswm pam fod pobl yng ngogledd, canolbarth a gorllewin Cymru eisiau dysgu Cymraeg, yn ôl data a gasglwyd gan gwmni ymchwil fel rhan o Arolwg Omnibws Cymru.

Daw'r arolwg i'r casgliad mai ymdeimlad o hunaniaeth a gwreiddiau sy'n cymell unigolion i ddysgu Cymraeg yng ngorllewin a de Cymru.

Ac yng Nghaerdydd a'r Fro, mae cael plant mewn addysg Gymraeg neu'n bwriadu anfon plant i ysgolion Cymraeg yn ysbrydoli pobl i ddysgu'r iaith.

Yng Nghaerdydd a'r Fro ac yng nghanolbarth a gorllewin Cymru, mae pobl hefyd yn dysgu Cymraeg er mwyn ymestyn cyfleoedd gwaith.

Ond yn nwyrain a de Cymru, mae pobl yn awyddus i ddysgu Cymraeg fel sialens ymenyddol ac i gadw eu meddyliau yn brysur wedi ymddeol meddai trefnwyr yr arolwg.

Disgrifiad o’r llun,

Efa Gruffudd Jones

'Gwahaniaethau rhanbarthol'

Dywedodd Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol:

"Mae gan bobl lot o resymau da dros ddysgu'r Gymraeg - yr hyn sy'n hynod ddiddorol yw darganfod bod gwahaniaethau rhanbarthol yn yr hyn sy'n eu cymell.

"Mae'r data newydd hwn yn atgyfnerthu'r hyn ry'n ni'n ei glywed ar lawr gwlad gan ein darparwyr a thiwtoriaid a bydd yn gymorth wrth i ni fwrw ati gyda'n gwaith."

Mae'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn gyfrifol am gynllunio a monitro pob agwedd ar y maes Cymraeg i Oedolion.

Mae'r Ganolfan yn darparu cyrsiau ledled Cymru trwy rwydwaith o ddarparwyr, gan gynnwys cyrsiau dwys, cyrsiau sy'n cyfuno dysgu yn y dosbarth gyda dysgu ar-lein a dosbarthiadau wythnosol yn ystod y dydd a gyda'r nos.

Holwyd sampl cynrychioladol o 1,000 o oedolion (16+) ledled Cymru rhwng Chwefror a Mawrth 2016 yn Arolwg Omnibws Cymru Beaufort. Mae'r canlyniadau yn seiliedig ar is-sampl o 203 o ymatebwyr a fynegodd ddiddordeb mewn dysgu neu wella eu Cymraeg.

Ffynhonnell y llun, Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol