Dai Lloyd: Angen gwella'r ddarpariaeth gofalwyr Cymraeg
- Cyhoeddwyd
Mae angen gwella'r ddarpariaeth i deuluoedd sydd eisiau gofalwyr Cymraeg, medd Cadeirydd Pwyllgor Iechyd Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon y Cynulliad.
Mae AC Plaid Cymru, Dai Lloyd, sydd hefyd yn feddyg teulu, yn dweud nad ydy'r iaith yn ddigon o flaenoriaeth ar hyn o bryd.
Dywedodd wrth raglen y Post Cyntaf: "Dwi ddim yn credu bod y ddarpariaeth trwy gyfrwng y Gymraeg yn dda trwyddi draw.
"Ar hyn o bryd dyw'n gwasanaeth iechyd ni, a dwi yn siarad rŵan fel rhywun sydd yn dal i weithio i'r gwasanaeth iechyd, ddim yn gweld yr iaith Gymraeg yn ddigon o flaenoriaeth rhan fwyaf o'r amser, yn enwedig felly yn y sector gofal."
Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod y dylai'r dewis fod yno i gael gofal yn Gymraeg ac maen nhw'n dweud bod ei strategaeth, Mwy na Geiriau, yn "ceisio gwneud yn siŵr bod siaradwyr Cymraeg yn derbyn gwasanaethau yn eu hiaith gyntaf".
Yn ôl Dr Lloyd, rhan o'r broblem yw prinder gofalwyr sydd yn gallu siarad Cymraeg. Ond mae hefyd yn dweud nad oes gan rai sydd yn gallu siarad yr iaith yr hyder i wneud hynny.
Mae Gerry Evans, Cyfarwyddwr Rheoleiddio a Safonau Proffesiynol gyda Chyngor Gofal Cymru, yn dweud bod y corff yn edrych ar y mater: "Mae hyn yn un o'r ardaloedd rydan ni yn pwysleisio rŵan.
"Mae gennym ni sawl pecyn sydd yn ymwneud efo ceisio datblygu'r nifer sydd yn gallu gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg.
"Felly be rydan ni yn gwneud ydy gweithio i bolisïau'r llywodraeth fel Mwy na Geiriau a chefnogi hynny drwy sicrhau bod yna adnoddau yma i weithwyr gofal allu defnyddio.
"Un o'r pethau rydan ni yn trio gwneud rŵan ydy datblygu hyder pobl i siarad Cymraeg a falle dod i ddeall bod nhw yn gallu gwneud mwy na maen nhw'n meddwl."
Dywedodd y llefarydd hefyd: "Wrth wraidd y strategaeth mae'r syniad y dylai'r gallu i ddefnyddio'ch iaith eich hun fod yn elfen graidd o'r gofal, nid yn rhywbeth ychwanegol.
"Rydym yn gweithio gyda darparwyr iechyd a gofal cymdeithasol i wneud yn siŵr bod gwasanaethau Cymraeg ar gael i bobl sydd eu hangen.
"Gall unrhyw un sydd â diddordeb mewn dod o hyd i ofalwr sy'n siarad Cymraeg cysylltu â Chyngor Gofal Cymru (CGC).
"Mae CGC yn cynnal rhestr o ofalwyr cofrestredig yng Nghymru, sy'n cynnwys manylion y rhai sy'n siarad Cymraeg."