Pen-blwydd Rownd a Rownd

  • Cyhoeddwyd
Hen gast Rownd a Rownd

Y mis hwn bydd un o gyfresi mwyaf poblogaidd S4C yn cyrraedd carreg filltir arall ac yn dathlu ei phen-blwydd yn 21 oed.

Dechreuodd Rownd a Rownd fel cyfres sebon i bobl ifanc gyda phenodau pum munud o hyd a oedd yn canolbwyntio ar helyntion pobl ifanc ar rownd bapur.

Ond bellach mae'n un o gonglfeini amserlen oriau brig S4C, gyda dwy bennod hanner awr o hyd bob nos Fawrth a nos Iau.

Ymunodd Dyfrig Evans - sydd hefyd yn brif leisydd y band Topper - gyda chast gwreiddiol Rownd a Rownd yn 1995 pan oedd ond yn 15 oed.

"Dwi'n cofio teimlo 'mod i wedi gwireddu breuddwyd pan ges i'r rhan," meddai Dyfrig, a oedd yn arfer chwarae rhan Ari Stiffs. "Roedd 'na gynnwrf mawr bod rhywbeth cyffrous, newydd wedi cyrraedd y gogledd.

"Ro'n i newydd ddechrau astudio TGAU ar y pryd - a bod yn onest, dwi'm yn rhy siŵr sut nes i basio! Dwi'n dal i freuddwydio mod i heb roi traethawd Lefel A i mewn am mod i'n brysur yn ffilmio!

"Roedden ni, yr actorion ifanc, yn cael y profiad anhygoel 'ma o wneud rhywbeth roedden ni wrth ein bodd yn gwneud… ac yn fwy na hynny yn cael y pleser pur o gydweithio efo actorion profiadol fel Dewi Pws ac Ifan Huw Dafydd."

Roedd Ari Stiffs (Dyfrig Evans) yn chwarae rhan mab trefnwr angladdau
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Ari Stiffs (Dyfrig Evans) yn chwarae rhan mab trefnwr angladdau yn y gyfres

"Roedd yn sylfaen dda i ni oedd am gael gyrfa mewn perfformio," ychwanegodd. "Roedden ni'n deulu bach hapus ac roedd bob dydd yn hwyl, rhwng Gwynfor y dyn camera'n cracio jôcs, a Dewi Pws yn mynd drwy'i bethau!

"Dwi'n dal i fod yn ffrindiau gorau gyda llawer o'r cast gwreiddiol a deud y gwir. Mae'n dipyn o sioc bod cymaint o amser wedi mynd heibio."

Ffilmio dramor

Y cymeriad cyntaf i gynulleidfa Rownd a Rownd ei weld oedd Emyr Prys, neu Dylan Parry. Pymtheg oed oedd Emyr hefyd pan wnaeth ymuno gyda'r brosiect newydd.

"Roeddwn i'n aelod o Glanaethwy cyn i mi ymuno efo cast Rownd a Rownd," meddai Emyr, a wnaeth ymddangos yn yr olygfa gyntaf un. "Roedd lot ohonan ni actorion newydd wedi bod yn aelodau o Glanaethwy ac yn 'nabod ein gilydd yn barod.

"Roedden ni'n gorfod colli dipyn o ysgol, ond roedd y teulu ro'n i'n rhan ohoni yn y gyfres yn cael mynd ar wyliau eitha' lot - aethon ni i Malta a Jersey, a dwi'n cofio cael ein ffilmio ar y reids yn Alton Towers, oedd yn lot o hwyl."

Roedd Emyr Prys (chwith) yn chwarae rhan Dylan Parry
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Emyr Prys (chwith) yn chwarae rhan Dylan Parry

"Dwi'n dal i fod yn ffrindiau gyda lot fawr o'r criw ro'n i'n actio efo nhw. Nes i a Fflur Medi [oedd yn chwarae rhan ei chwaer, Ffion] dyfu fyny efo'n gilydd; roeddan ni'n ffrindiau mawr - er bod ni'n ffraeo cryn dipyn hefyd.

"Ro'n i'n teimlo fatha bod gen i ryw fath o ail deulu. 'Da'n ni'n dal yn fêts mawr, ac yn dal i gyfeirio at ein gilydd fel 'brawd a chwaer'!

"Dwi'n cofio teimlo embaras llwyr yn gorfod cusanu ar sgrin - nes i orfod gwneud hynny ryw dair neu bedair gwaith efo genod gwahanol. Doedd o mo'r profiad mwya' pleserus i rywun yn eu harddegau oedd yn eitha' self concious, ond wrth sbio nôl, roedd o'n dipyn o hwyl!"

Yn wahanol i Dyfrig Evans, wnaeth Emyr ddim ymlaen i ddilyn gyrfa mewn actio er ei fod yn dal i berfformio ar lwyfan fel basydd i fand Yws Gwynedd.

"Roedd y cyflog ro'n i wedi'i gael wrth weithio ar Rownd a Rownd yn help mawr i 'nhalu drwy'r coleg wedyn," meddai. "Er i mi actio yn y gyfres Emyn Roc a Rôl, nes i feddwl am un cyfnod fyddai'n cŵl gwneud bywoliaeth o actio, ond fyddai hynny mwy na thebyg yn golygu fyddai disgwyl i mi wneud jobsys yn Lloegr er mwyn medru gwneud bywoliaeth, ond doedd gen i ddim diddordeb actio yn Saesneg.

"Dwi bellach yn gweithio fel Asiant Yswiriant i'r NFU Mutual yn Llangefni. Nes i ddisgyn i mewn i'r swydd yma mewn ffordd. Fel mab ffarm, dwi'n delio gyda ffermwyr Ynys Môn.

"Roedd Rownd a Rownd wedi rhoi cyfle hollol anhygoel i mi a llawer o rai eraill pan o'n i'n ifanc - roeddech chi'n gwneud tomen o ffrindiau ac roedd yn gyfle gwych i actorion ifanc gychwyn yn y maes."

Un o'r actorion sydd â digon o straeon i'w rhannu yw Iestyn Garlick, sy'n chwarae rhan yr athro Jim Gym. Mae o wedi bod yn rhan o'r cast ers y gyfres gyntaf un.

"Mae 'na blant sy'n actio yn y gyfres bresennol doedd heb eu geni pan ddechreuais i yma!" meddai Iestyn. "Ac mae sawl un 'da ni wedi ei gweld yn tyfu fyny ar y gyfres wedi mynd ymlaen i gael gyrfaoedd actio llewyrchus iawn."

Mae'r actor Owain Arthur wedi mynd ymlaen i serennu yn y ddrama lwyfan One Man Two Guvnors yn y West End
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r actor Owain Arthur wedi mynd ymlaen i serennu yn y ddrama lwyfan One Man Two Guvnors yn y West End

line

Pen-blwydd Hapus Rownd a Rownd, S4C nos Sul 11 Medi, 20:00

Bydd y bennod gyntaf erioed i'w gweld ar alw ar wefan S4C o nos Sul 11 Medi. Bydd y bennod i'w gweld ar S4C ddydd Sul 18 Medi am 14:00.