Cwis: Rhys Meirion efo pwy?
- Cyhoeddwyd
Mewn cyfres newydd ar S4C mae Rhys Meirion yn canu deuawdau gydag amrywiaeth o berfformwyr adnabyddus.
Yn ein cwis yr wythnos yma, mae dawn technegol tîm Cymru Fyw wedi ei wthio i'r pen er mwyn creu lluniau o Rhys fel aelod o ddeuawdau eraill Cymraeg.
Ond pa ddeuawdau?
Un hawdd i ddechrau. Dyma Rhys yn rhan o un o ddeuawdau mwyaf enwog Cymru, ond pwy?
Mae Rhys wedi troi'n DJ yn y ddeuawd yma, yn ogystal â bod yn gyflwynydd ar wasanaeth Radio Cymru Mwy.
Canu gyda'i dad mae Rhys yn y ddeuawd yma, ond pa ddeuawd?
Un o ddeuawdau enwocaf S4C sydd gyda ni yma, ond pwy?
Nid yn unig mae'n rhaid i chi ddyfalu pa ddeuawd, ond pa un yw Rhys yn y llun yma?
Mae Rhys wedi mynd bach yn 'hip hop' yn y ddeuawd yma. Marc ychwanegol os gewch chi hwn.
Ac i orffen, does dim Sion heb Siân, ond pa ddeuawd cyflwyno adnabyddus mae Rhys wedi amharu arnyn nhw nawr?