Diabetes: Ysbyty Gwynedd yn 'arwain y ffordd'

  • Cyhoeddwyd
Diabetes

Mae meddygon yn Ysbyty Gwynedd ym Mangor yn dweud eu bod yn arwain y ffordd wrth drin pobl diabetig sy'n cael clwyfau ar eu traed.

Mae briwiau ar y traed yn broblem gyffredin i gleifion sydd â chlefyd y siwgr, ac yn un o'r rhesymau mwyaf dros orfod cael triniaeth ysbyty.

Fe all cleifion diabetig golli teimlad yn eu coesau a'u traed, ac o ganlyniad, dydyn nhw ddim yn gallu teimlo clwyf neu anaf.

Yn yr achosion gwaethaf, mae'n gallu arwain at orfod colli troed neu goes.

Cwtogi triniaethau

Mae Ysbyty Gwynedd yn dweud eu bod wedi bod yn llwyddiannus iawn dros y 10 mlynedd diwethaf wrth gwtogi nifer y cleifion sy'n gorfod colli bodiau neu rannau o'u traed.

Mae tîm bychan yn gweithio dan arweiniad yr Athro Dean Williams er mwyn cadw llygad barcud ar gleifion.

Yn 2014, chafodd dim un llawdriniaeth o'r fath ei chynnal.

Yn ôl yr ysbyty, nhw sydd â'r ffigyrau isaf yn y byd o ran ymdoriadau (amputations).

Disgrifiad o’r llun,

Mae clefyd y siwgr ar Dafydd Chubb ers ugain mlynedd

Un sy'n ymwelydd cyson â'r ysbyty yw Dafydd Chubb o Fangor. Yn 46 oed, mae clefyd siwgr wedi bod arno ers blynyddoedd, ac mae'n ymweld â'r clinig podiatreg i gael triniaeth i glwyf ar ei goes.

"Dwi'n diabetic ers 20 mlynedd ac yn y ddwy flynedd ddiwetha' mae bywyd 'di mynd dipyn bach upside down. Dwi'm yn cael dreifio, dwi'm yn cael cerdded llawer.

"Dwi 'di cael ulcer ar yr heel, ac mi snapiodd yr achilles tendon."

Cafodd lawdriniaeth i wella'r clwyf, ac heb waith yr Athro Williams, meddai, mi fyddai wedi colli ei goes.

"Y stad oedd ar y goes pan es i fewn y diwrnod hwnnw flwyddyn a hanner yn ôl, roedd hi'n ddu bitsh... ond mae'r goes yn dal gen i, dwi'n medru symud bodiau fy nhraed. Mae pob dim yn dechrau dod at ei gilydd rŵan o'r diwedd."

Yn ôl Iola Roberts, sy'n botiatregydd yn Ysbyty Gwynedd, mae pobl sydd â chlefyd y siwgr yn aml yn poeni am broblemau posib gyda'u traed.

"Mae cleifion bob tro'n bryderus eu bod nhw'n mynd i golli bawd troed neu fys neu ran o'r droed, neu'r goes i gyd. Yn aml iawn maen nhw'n gofyn beth sy'n mynd i ddigwydd," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Iola Roberts yn bodiatregydd yn Ysbyty Gwynedd

Mae'n dweud bod y gwaith tîm yn Ysbyty Gwynedd wedi arwain at lwyddiant.

"Mae'n waith hir. Dydy o ddim yn rhywbeth sy'n gwella dros nos, ac mae'r cleifion yn dda iawn. Maen nhw'n dod i apwyntiadau ac mae pawb yn gweithio efo'i gilydd.

"Maen nhw'n cael eu hedrych ar eu hôl - y briwiau, os oes yna broblem efo rhediad y gwaed yn y coesau, maen nhw'n cael gweld y meddygon ac yn cael triniaeth i hynna, ac mae o i gyd yn helpu yn y diwedd."

Ac mae Dafydd Chubb yn gwerthfawrogi pob gofal.

"Bob tro 'dach chi'n dod yma, 'dach chi'n cael newyddion da. Mae'n codi'ch calon chi.

"Does 'na'm byd yn broblem iddyn nhw."