Theatr Stiwt, Rhosllannerchrugog, yn dathlu pen-blwydd
- Cyhoeddwyd
Mae Theatr Stiwt Rhosllannerchrugog ger Wrecsam yn dathlu 90 mlynedd ers agor ei drysau eleni ac mae'r arweinydd cerddorol Owain Arwel Hughes wedi cyhoeddi y bydd yn un o'r noddwyr.
Mae gan yr arweinydd adnabyddus gysylltiad gyda'r theatr am fod ei daid yn un o'r rhai wnaeth helpu i godi arian i'w hadeiladu yn ôl yn 1926.
Fe aeth glowyr y pentref ati i godi £18,000 yn wreiddiol ac yn £20,000 arall trwy gyfrannu rhywfaint o'u cyflog bob wythnos.
Fe dreuliodd Owain Arwel Hughes, sydd wedi arwain cerddorfeydd ar draws y byd ac wedi sefydlu Proms Cymru, gyfnod yn y pentref hefyd yn nhŷ ei daid a'i nain pan oedd yn blentyn.
Dywedodd: "Fe allech chi weld y Stiwt o gartref y teulu ac mae'n rhywle dw' i wedi bod yn ymwybodol ohono ers i fi fod yn fachgen bach.
"Doedd dim rhaid i fi feddwl ddwywaith felly pan ofynnwyd i fi os bydden ni yn fodlon cefnogi'r theatr."
Ychwanegodd Mr Hughes: "Roedd fy nhad yn un o 10 o blant ac fe wnaeth e ddod a fi i'r Stiwt i chwarae snwcer pan oeddwn i yn fachgen.
Cofio'r cloc yn canu
"Dw i'n cofio'r rhesi o lowyr yn disgwyl yn y bore i'r bysiau gyrraedd i fynd â nhw i'r pyllau glo.
"Maen nhw i gyd wedi mynd erbyn hyn ond mae'r Stiwt yn adeilad hardd gydag adnoddau gwych ar gyfer cyngherddau a theatr.
"Dw i'n cofio'r cloc fyddai yn canu bob chwarter awr. Mi oedd e yn rhywbeth nodweddiadol ac yn rhywbeth nes i dyfu i fyny yn clywed."
Cafodd y Stiwt ei gau yn 1976 ac roedd peryg y byddai yn cael ei ddymchwel ar un cyfnod. Ond yn 1999 cafodd ei ail agor wedi ymdrechion y gymuned leol ac arian gan y Loteri.
Bydd cyngerdd yn cael ei gynnal yn ddiweddarach yn y mis i nodi 90 mlynedd ers i'r theatr agor.
Mae'r theatr sydd yn cynnwys 490 o seddi yn derbyn arian gan Gyngor Wrecsam a Chyngor Celfyddydau Cymru.