17,000 yn rhedeg hanner marathon Caerdydd
- Cyhoeddwyd
Mae miloedd o redwyr wedi bod yn cymryd rhan yn hanner marathon Caerdydd.
Mae tua 17,000 wedi bod yn rhedeg y ras sydd yn 13.1 milltir.
Mae'r trefnwyr wedi cyhoeddi eu bod yn bwriadu cynnal marathon yng Nghaerdydd yn 2017 wedi llwyddiant yr hanner marathon eleni.
Roedd ffyrdd ar gau ond maent wedi bod yn ail agor yn raddol yn ystod y dydd.
Mae'r ras wedi bod yn effeithio ar y gwasanaethau bysiau yn ystod y bore ac yn gynnar yn y prynhawn a'r cyngor yw edrych ar wefan Bws Caerdydd, dolen allanol er mwyn gweld pa deithiau sydd yn cael eu heffeithio.
Shadrack Korir o Kenya ddaeth yn fuddugol yn y ras i'r dynion a hynny mewn amser o 01:00:54 sydd yn record bersonol iddo ef ac yn record i'r cwrs.
Y tu ôl i Korir oedd Cyprian Kotut sydd hefyd yn dod o Kenya a Charles Mneria oedd yn drydydd.
Daeth Dewi Griffiths, sydd wedi bod yn bencampwr hanner marathon Cymru dair gwaith yn wythfed, a hynny mewn amser o 01:03:26.
Violah Jepchumba oedd yn fuddugol yn y ras i ferched gan dorri'r record ar gyfer y cwrs. 01:08:14 oedd ei hamser hi.
Y Cymro Richie Powell enillodd y ras gadair olwyn mewn amser o 01:02:44.
Hanner marathon Caerdydd yw'r ail fwyaf ym Mhrydain erbyn hyn meddai'r trefnwyr.
Dywedodd Prif Weithredwr Run 4 Wales, Matt Newman cyn y ras ei fod yn falch bod cymaint wedi cofrestru eleni:
"Roedden ni yn awyddus i adeiladu ar lwyddiant IAAF/Hanner Marathon y byd a does yna ddim amheuaeth fod y digwyddiad ym mis Mawrth wedi golygu bod proffil hanner marathon Caerdydd wedi codi i lefel arall.
"Mae mwy na hanner y rhedwyr eleni wedi penderfynu cymryd yr her i wneud Hanner Marathon Caerdydd am y tro cyntaf sydd yn dangos bod gan y digwyddiad enw da ymhlith y gymuned rhedeg."