Lluniau: BAFTA Cymru 2016
- Cyhoeddwyd
Roedd y carped coch yn llawn sêr neithiwr ar gyfer seremoni wobrwyo BAFTA Cymru. Dyma i chi rai o'r uchafbwyntiau. Sioned Birchall a Nia Davies oedd ffotograffwyr Cymru Fyw yn y digwyddiad.

Eve Myles yn arwyddo'r llyfrau llofnodion

Dechrau mewn steil. Huw Stephens, un o gyflwynwyr y noson yn rhannu llun gyda Huw Fash

Y gantores Kizzy Crawford a oedd yn perfformio yn ystod y seremoni

Yr actor Robert Pugh

Y golurwraig Siân Grigg enillodd wobr Siân Phillips am ei chyfraniad i fyd y ffilmiau

Derbyniodd Terry Jones wobr arbennig BAFTA gan Michael Palin, ei hen gyfaill o griw Monty Python

Ffion Dafis ar y carped coch

Mae Catrin Stewart wedi gadael y llyfrgell i ddod i'r seremoni

Yr actor gorau oedd Mark Lewis Jones am ei ran yn Yr Ymadawiad

Connie Fisher yn denu'r camerâu

Y Fonesig Siân Phillips

Erin Richards, seren y gyfres Americanaidd boblogaidd Gotham

Yr actores orau oedd Mali Harries am ei rhan yn Y Gwyll