Cerosin: AC yn beirniadu ymateb Llywodraeth Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae Aelod Cynulliad Plaid Cymru, Adam Price wedi beirniadu'r ffordd mae Llywodraeth Cymru wedi ymdrin gyda'r llygredd yn Nant Pibwr yn Nant-y-Caws yn Sir Gaerfyrddin.
Mae yna amcangyfrif bod rhwng 70 a 100 mil o litrau o cerosin wedi llifo i'r afon o bibell danwydd oedd yn cael ei thrwsio o dan ffordd yr A48.
Dywed Adam Price nad yw Llywodraeth Cymru wedi dangos arweiniad wrth ymdrin â'r llygredd.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae ysgrifennydd y cabinet wedi derbyn diweddariadau cyson gan Gyfoeth Naturiol Cymru o'r funud y cafodd y digwyddiad ei adrodd, ac yn parhau i fonitro'r sefyllfa yn agos.
"Mae darn i bibell gafodd ei effeithio wedi cael ei ynysu felly ni fydd mwy o olew yn gollwng nag oedd yn y darn arbennig yna.
"Mae Dŵr Cymru wedi cadarnhau nad oes effaith ar eu cyflenwadau o ddŵr yfed.
"Mae swyddogion Llywodraeth Cymru mewn cysylltiad cyson gyda swyddogion CNC ar y safle er mwyn sicrhau bod yr ymateb i'r digwyddiad yn cael ei reoli'n iawn gyda'r adnoddau cywir. Bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ymweld â'r safle yfory."
'Digwyddiad o bwys'
Mae Aelod Cynulliad Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, Adam Price yn gofyn pam nad yw'r Ysgrifennydd Amgylchedd wedi ymweld â'r ardal wedi i cerosin lifo i Nant Pibwr yn Nant-y-Caws.
"Mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru gymryd yr awennau.
"Mae hyn yn ddigwyddiad o bwys cenedlaethol. Oni ddyle fod y gweinidog lawr 'ma yn ceisio cydlynu'r ymateb a chael rhagor o wybodaeth.
"Reit ar y dechrau oedd na ryw awgrym mai digwyddiad cymharol fechan oedd hwn. Nawr pedwar diwrnod wedyn ry' ni yn sylweddol bod hyn yn ddigwyddiad ar lefel cenedlaethol ac mae angen ymateb cenedlaethol gan y llywodraeth."
Mae BBC Cymru wedi gofyn i Lywodraeth Cymru am ymateb i sylwadau Adam Price.