Papur newydd Y Cyfnod ar werth unwaith eto
- Cyhoeddwyd
![y cyfnod](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/624/cpsprodpb/1740F/production/_91774259_cyfnodcol.jpg)
Mae papurau newydd yn ardal Y Bala a Corwen wedi'u rhoi ar werth unwaith eto, dair blynedd yn unig ar ôl cael eu prynu.
Fe gymerodd Mari Williams yr awenau yn 2013, a hi sydd bellach yn gyfrifol am gyhoeddiad wythnosol dwyieithog Y Cyfnod yn ogystal â phapur y Corwen Times.
Ond mae hi bellach yn chwilio am brynwr newydd i'r busnes, ar ôl derbyn swydd newydd gyda'r Urdd.
Dywedodd ei bod hi'n "gyfle arbennig i rywun redeg dau bapur hollol unigryw", a'i bod hi'n gobeithio dod o hyd i brynwr newydd cyn diwedd y flwyddyn.
Fe brynwyd y ddau bapur gan Ms Williams dair blynedd yn ôl yn dilyn cau Gwasg Y Sir yn Y Bala, oedd wedi bod yn gyfrifol am y cyhoeddiadau gynt.
![mari williams](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/624/cpsprodpb/12A4F/production/_91776367_mari.jpg)
Roedd Mari Williams yn gyn-ohebydd gyda Golwg a'r Western Mail
Mae'n gwerthu tua 1,000 o gopïau'r wythnos - ac mae hynny wedi aros yn gyson dros y blynyddoedd diwethaf, meddai - yn ardaloedd Y Bala, Corwen, Cerrigydrudion, Trawsfynydd, Dolgellau a Rhuthun.
"Mae o yn fusnes bach cynaliadwy i rywun, efallai fel rhan o fusnes arall tebyg neu hyd yn oed fel menter gymunedol neu fenter ar y cyd," meddai.
"Dwi'n agored i drafod posibiliadau ac yn edrych ymlaen yn fawr i glywed pa syniadau sydd gan bobol am y cam nesaf ar gyfer y papurau."
Ychwanegodd wrth BBC Cymru Fyw ei bod wedi cael "ambell i sgwrs" â phrynwyr posib, ac y byddai pwy bynnag oedd yn cymryd yr awenau yn etifeddu busnes sydd â chyflenwyr, hysbysebwyr a chyfranwyr rheolaidd, yn wahanol i'r sefyllfa nôl yn 2013.
"Mae'r swydd newydd yn un heriol, llawn amser," meddai.
"Yn ddelfrydol, mi fydda i yn cymryd cam llwyr oddi wrth y papur. Ond lles y papur ydi'r flaenoriaeth ac mi allwn i drafod cadw golwg, rhoi hyfforddiant neu rywfaint o gymorth os oes angen."