Darogan cynlluniau gwariant Llywodraeth
- Cyhoeddwyd
Heddiw fe gawn i wybod faint o arian fydd yn cael ei wario ar ba wasanaethau sydd yn nwylo Llywodraeth Cymru.
Gwasanaethau fel ysgolion, ysbytai a faint o gefnogaeth sydd ar gael i fusnesau.
Mae gweinidgion yn Mae Caerdydd yn gyfrifol am wario £14.6bn-£14.8bn, sy'n dod o goffrau'r trysorlys yn San Steffan.
Mae hi'n anodd darogan yr union fanylion, ond eleni mae ganddon ni syniad go lew.
Sail i gytundeb
Nôl ym mis Mai ar ôl wythnos o gynnwrf ac ansicrwydd, cafodd Carwyn Jones ei benodi yn brif weinidog... ond i wneud hynny, roedd rhaid iddo gael cefnogaeth aelodau Plaid Cymru er mwyn cael mwyafrif yn y Cynulliad.
Felly mae ganddon ni restr o'r cynlluniau oedd yn sail i'r cytundeb, sy'n cynnwys mwy o arian i ofal plant am ddim, i brentisiaethau, a chodi safonau mewn ysgolion.
Mae'r llywodraeth wedi ymrwymo i gynyddu darpariaeth gofal plant am ddim i drideg awr yr wythnos am 48 wythnos y flwyddyn i blant tair a phedair oed, i helpu rhieni ddychwelyd i'r gwaith.
Mae yna bryder na fydd amcangyfrif y gost - £84m y flwyddyn - yn ddigon.
I blant hŷn mi fydd yna newydd da hefyd, addewid o £100m i wella ysgolion.
Mae yna ddisgwyl hefyd y bydd cynnydd yn nifer y prentisiaethau - 100,000 dros y pum mlynedd nesaf.
Mi fydd yna gost, wrth gwrs, i hynny.
Ac er bod y cynnydd mewn prentisiaethau i'w groesawu, mae yna bryder y bydd toriadau pellach ar gyrsiau eraill mewn colegau addysg bellach.
Pwysau gwleidyddol parhaus
A dyna'r broblem i'r llywodraeth heddiw. Mae'r pwrs cyhoeddus yn dynn iawn.
Os ydy'r ysgrifennydd cyllid, Mark Drakeford am wario mwy ar rai maesydd, mi fydd angen torri gwariant ar eraill.
Ar ben hynny, mae yna bwysau gwleidyddol parhaus i roi mwy o arian i'r gwasanaeth iechyd, yn enwedig o gofio adroddiadau yr wythnos diwethaf am ddiffyg arian y gwasanaeth.
Mae'r cynllun i gefnogi ardaloedd tlotaf Cymru, Cymunedau'n Gyntaf, eisoes wedi mynd gan arbed £30 miliwn y flwyddyn.
Ond mi fydd angen cadw llygad barcud i weld lle arall fydd y fwyell yn cwympo.
Felly am y tro mi fydd yn rhaid i ysgolion, ysbytai, cynghorau a ni'r trethdalwyr, aros i weld beth ddaw.