Lle oeddwn i: Guto Dafydd ac Ymbelydredd
- Cyhoeddwyd
Flwyddyn union yn ôl, treuliodd Guto Dafydd chwe wythnos yn cael triniaeth radiotherapi mewn ysbyty ym Manceinion. Yn ystod y cyfnod hwnnw ysgrifennodd ei nofel Ymbelydredd.
Cafodd Cymru Fyw sgwrs gyda'r awdur am gefndir y llyfr a enillodd wobr Goffa Daniel Owen yn Eisteddfod Genedlaethol Y Fenni eleni fel rhan o gyfres o erthyglau 'Lle oeddwn i':
Cadw'n brysur
Fe dyfodd y nofel yn uniongyrchol o'r profiad o gael radiotherapi. O'n i ddim 'di bwriadu sgwennu dim byd newydd ar y pryd i ddweud y gwir, ond o'n i'n gwybod unwaith glywais i fy mod i'n cael y driniaeth roeddwn i angen rhywbeth i nghadw fi fynd, i nghadw i'n brysur yn ystod y driniaeth.
Roeddwn i'n cael radiotherapi yn Ysbyty Christie's ym Manceinion am chwe wythnos ac o'n i'n mynd â'r cyfrifiadur efo fi lle bynnag o'n i'n mynd.
Ar y trên i Fanceinion, o'n i'n sgwennu mewn 'stafelloedd aros yng ngorsaf Bangor a Llandudno, yn sgwennu yn y gwesty ac yn yr ysbyty hefyd. Unrhyw amser rhydd oedd gennai, o'n i'n mynd i'r cantîn neu'n teipio yn y 'stafell aros.
Ro'n i'n trio sgwennu cymaint ag y gallwn i'n ystod yr wythnos ym Manceinion, er mwyn cadw'r penwythnosau'n rhydd efo'r teulu.
Mae'r adran radiotherapi yn Ysbyty Christie yn lle eithriadol o braf, mae'n teimlo dipyn bach fel gwesty. Mae'r 'stafell reit ynghanol yr adeilad felly does dim ffenest, dim golygfa ond maen nhw'n trio gwneud pobl i deimlo'n gartrefol ac yn heddychlon yno.
O'n i erioed 'di byw mewn dinas, ond oedd mynd i rywle fel Manceinion, rhywle llawn atyniadau gwahanol i Bwllheli, mi oedd yn gyfle i fi gyflwyno'r profiadau hynny.
O'n i'n mynd allan i'r sinema ac i arddangosfeydd a meddwl be' allai roi mewn yn y nofel. Dwi'n byw mewn ardal Gymreig iawn ac oedd cael fy ngollwng am chwe wythnos mewn byd lle doedd neb yn siarad Cymraeg yn brofiad anodd mewn ffordd.
Oedd o'n gyfnod anodd iawn i fy ngwraig Lisa hefyd, roedd Casi yn fach iawn ac roedd hi'n disgwyl Nedw ar y pryd.
Gydag Ymbelydredd o'n i eisiau creu rhywbeth arloesol ym maes llenyddiaeth. Roeddwn i'n mynd trwy brofiad oedd yn newydd iawn i fi ac o'n i'n meddwl ei fod yn gyfle i greu darn o ffuglen.