Plant mewn gofal: Angen torri'r cylch ar frys medd barnwr
- Cyhoeddwyd
Mae angen mynd i'r afael â'r cylch o blant o'r un teuluoedd yn cael eu rhoi yn y system ofal, a hynny ar frys, yn ôl un o sefydlwyr llys sydd yn arbenigo mewn achosion teulu.
Mae'r barnwr Nicholas Crichton, sydd â phrofiad helaeth mewn cyfraith teulu, yn dweud bod angen i Lywodraeth Cymru a chynghorau fuddsoddi mewn gwasanaethau.
Mae hefyd yn dweud bod y cynnydd yn nifer yr achosion gofal yng Nghymru yn "ddaeargryn sydd rownd y gornel".
Bydd plant yn cael eu rhoi yn y system ofal os ydynt yn dioddef, neu fod yna risg uchel o niwed.
Mae Llywodraeth Cymru yn dweud eu bod yn edrych ar y sefyllfa ac yn gweithio gyda theuluoedd sydd wedi eu heffeithio gan gyffuriau ac alcohol trwy eu Gwasanaethau Integredig Cymorth i Deuluoedd.
Fe ddangosodd cais rhyddid gwybodaeth gan BBC Cymru fod nifer y plant sydd wedi eu cymryd oddi wrth yr un fam yn amrywio o un cyngor i'r llall.
Dywedodd Cyngor Blaenau Gwent eu bod yn credu iddyn nhw gymryd 11 o blant o'r un fam rhwng 2000 a 2015.
Mae Casnewydd a Rhondda Cynon Taf wedi cymryd naw o blant o'r un teulu.
Dim ond 16 o'r 22 o awdurdodau lleol wnaeth ymateb.
Abertawe oedd â'r niferoedd isaf - roedden nhw wedi cymryd tri o blant, a Chaerffili wedi cymryd pedwar, ond dim ond gwybodaeth ar gyfer y pum mlynedd ddiwethaf gafodd ei ddarparu gan y ddau gyngor.
Mae'r barnwr Crichton wedi treulio amser yn America mewn llysoedd teulu sydd yn ceisio 'datrys problemau teuluoedd', ac mae'n argyhoeddedig y byddai modd gwneud rhywbeth tebyg ym Mhrydain.
"Os ydych chi yn arferol yn cymryd y pedwerydd, pumed, chweched plentyn, ac yn aml mae'n fwy na hynny, yna mae'n system sydd wedi methu, oherwydd mi ydych chi mewn ffordd yn condemnio genedigaeth mwy o blant sydd yn anochel yn cael eu rhoi yn y system ofal," meddai.
"Mae'r gost emosiynol i'r teuluoedd a'r plant yn aruthrol ac mae'r gost ariannol i'r trethdalwr yn aruthrol. Mae'n rhaid trio rhywbeth gwahanol."
Mae'n dweud ar gyfer bob punt sydd yn cael ei wario ar Lysoedd Teulu (Cyffuriau ac Alcohol) mae £2.30 yn cael ei arbed dros gyfnod o bum mlynedd.
Edrych ar y mater
"Mae'r cynnydd yn nifer yr achosion gofal dros y ddeg mlynedd ddiwethaf a'r 12 mis diwethaf yn ddaeargryn sydd rownd y gornel," meddai.
"Pe bydden nhw [y llywodraeth] yn buddsoddi 10 neu 20 miliwn yn cyflwyno'r ffyrdd yma, mi fyddai hynny yn arian y cânt yn ôl ...."
Wrth ymateb i sylwadau'r Barnwr Crichton dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn edrych ar y mater ac yn gweithio gyda phartneriaid er mwyn datblygu ffordd genedlaethol i leihau'r nifer o blant sydd yn y system ofal.
Maent yn dweud bod eu Gwasanaethau Integredig Cymorth i Deuluoedd (IFSS) yn rhoi cymorth i deuluoedd, gan gynnwys y rhai sydd wedi eu heffeithio gan gyffuriau ac alcohol, cyn i blant fod mewn perygl o gael eu rhoi yn system ofal.
"Mae IFSS yn gweithio gyda rhieni i wella cynhwysedd a gallu rhieni, datblygu eu cryfderau a galluogi aelodau o'r teulu i gael effaith hir dymor cadarnhaol ar newid ymddygiad."
Beth yw'r Llys Teulu Cyffuriau ac Alcohol?
Llys gafodd ei sefydlu gan y Barnwr Critchon yn Lloegr yw hwn, a'r nod yw gweithio gyda'r rhieni i dorri'r cylch.
Maen nhw'n gweithio gydag arbenigwyr er mwyn sefydlu cynllun ac yn mynd o flaen y llys bob pythefnos er mwyn trafod cynnydd.
Mae'n rhoi cyfle i rieni gadw eu plant os ydyn nhw'n llwyddo i wneud newidiadau. Yn ôl Nicholas Critchon, mae 50% o achosion wedi bod yn llwyddiannus.
Does dim llys o'r fath yng Nghymru.
Prosiect sydd yn ceisio gwneud gwahaniaeth
Mae'r elusen Action for Children yn gyfrifol am brosiect Women's Worker yng Nghaerfyrddin, sydd yn cynnig cefnogaeth i fenywod pan fo un neu fwy o'u plant wedi eu cymryd oddi wrth y teulu, yn ystod achos llys ac mewn perygl o golli eu plant.
Catriona Houston yw un o'r gweithwyr ac mae'n dweud bod 60% o'r menywod wedi bod mewn gofal a tua'r un faint wedi eu camdrin yn rhywiol yn ystod eu plentyndod: "Maen nhw wedi eu magu i beidio â bod â meddwl uchel iawn o'u hunain, ac alcohol yw eu hoff gyffur i atal y boen.
"Maen nhw'n dechrau perthnasau lle mae yna gamdriniaeth yn y cartref ac maen nhw'n canolbwyntio ar oroesi ac nid gofalu am eu plant."
Mae'n hanfodol gweithio gyda menywod yn y sefyllfa yma am gyfnod hir, meddai, ond mae angen mwy o fuddsoddiad mewn gwasanaethau er mwyn torri'r cylch o achosion gofal yn y llysoedd.
Mae'r effaith ar y fam pan mae plentyn yn cael eu rhoi yn y system ofal yn "alar ofnadwy".
"Mae'r menywod yma yn galaru ond does yna neb wedi marw," meddai.
Stori 'Alison'
Un o'r menywod sydd wedi cael help gan Action for Children yw Alison (nid ei henw iawn). Cafodd pedwar o'i phlant eu cymryd oddi wrthi am fod yna bryderon am fywyd y teulu ac am fod ei chyn-gariad yn ei chamdrin. Roedd o hefyd yn cymryd cyffuriau.
Mae'r gwasanaethau cymdeithasol wedi bod mewn cyswllt ers y dyddiau cynnar.
Doedd hi ddim yn sylweddoli'r effaith roedd y berthynas wedi cael ar ei phlant: "Doeddwn i ddim yn sylweddoli rhai o'r pethe oedden nhw yn gweld tan i'r un hynaf weld cwnselydd ar ôl iddo gael ei gymryd o'r cartref... Fe welodd fy nghyn-gariad yn fy mhwnio unwaith. Fe glywodd o'r gweiddi a'r sgrechian."
Ar y pryd, doedd hi yn teimlo fod y penderfyniad i gymryd ei phlant oddi wrthi yn un teg, ond ers cael sesiynau gyda chwnselydd mae'n dweud y dylai fod wedi digwydd "llawer yn gynt".
Ers cael help, mae wedi gweddnewid ei bywyd ac yn teimlo fel person gwahanol: "Dw i'n teimlo mod i ddim yn troi yn yr un cylchoedd o ffrindiau bellach. Does gen i ddim yr un dylanwadau."
Mae wedi cwrdd â phartner arall ac wedi cael plentyn gyda fo, penderfyniad gafodd ei gynllunio gyda chefnogaeth ei gweithiwr personol.
Mae'n dweud bod cefnogaeth ei gŵr, ei theulu a'i gweithiwr wedi ei helpu i newid: "Maen nhw wedi gwneud yn siŵr fy mod i yn gwybod eu bod nhw am fod o gwmpas, yn rhan o mywyd i, a'u bod nhw ddim jest am adael, dim ots faint dw i'n trio eu gwthio nhw i ffwrdd."
Mae'n gobeithio y bydd ei phlant eraill yn gallu dod yn ôl adref i fyw gyda hi, ond yn dweud nad oes digon o help i fenywod sydd mewn amgylchiadau tebyg.
Ei chyngor i fenywod eraill yw i "beidio rhoi'r ffidil yn y tô" ynglŷn â'r plant, ac i gael rhwydwaith o gefnogaeth dda o'u cwmpas.