Landlordiaid yn galw am ymestyn dyddiad cynllun newydd
- Cyhoeddwyd
Mae rhai landlordiaid yn galw am ymestyn y dyddiad cau mae'n rhaid iddyn nhw gofrestru ar gyfer cynllun newydd.
Mae cynllun Rhentu Doeth Cymru yn golygu bod yn rhaid i unrhyw un sydd yn rhentu eiddo yng Nghymru gofrestru neu gael trwydded erbyn 23 Tachwedd.
Ond mae Cymdeithas y Landlordiaid Preswyl (RLA) yn dweud bod nifer yn dal ddim yn gwybod bod yn rhaid iddyn nhw wneud hynny.
Mae Rhentu Doeth Cymru yn dweud fod landlordiaid wedi cael blwyddyn i gofrestru ac na fyddan nhw yn ymestyn y dyddiad cau.
Fe ddangosodd cais rhyddid gwybodaeth gan RLA mai 32,230 o'r 130,000 o landlordiaid oedd wedi cofrestru erbyn 18 Hydref. Fe allai'r rhai sydd ddim yn cydymffurfio gael dirwy.
Dywedodd cyfarwyddwr RLA, Douglas Haig y bydd yn ysgrifennu at Lywodraeth Cymru er mwyn gofyn am ddyddiad cau newydd fel bod landlordiaid yn medru gwybod mwy am yr hyn sydd angen iddyn nhw wneud.
Cyngor Caerdydd sydd yn gweithredu'r cynllun ar gyfer Cymru gyfan.
Yn ôl Rhentu Doeth Cymru mae yna gynnydd mawr wedi bod yn y niferoedd sydd wedi cofrestru gyda 46,300 wedi gwneud erbyn hyn ac 11,400 arall wedi dechrau'r broses.
Mae Mr Haig yn dweud mai "nifer fach" o bobl sydd yn gwybod am y cynllun a bod rhai yn aros tan y funud olaf am fod y drwydded yn para pum mlynedd o'r dyddiad mae'n cael ei gymeradwyo ac nid o'r dyddiad cau.
Cwyn arall sydd ganddo yw fod dim digon o staff yn ymwneud gyda'r cynllun.
Dim bwriad ymestyn y dyddiad
"Dw i ddim yn meddwl bod hi'n gofyn gormod i Lywodraeth Cymru a Chyngor Caerdydd greu cynllun addysgiadol fel bod modd cael y wybodaeth yma allan yna. Byddai hynny yn agwedd synhwyrol."
Dywedodd llefarydd ar ran Rhentu Doeth Cymru: "Does gennym ni ddim bwriad ymestyn y dyddiad cau.
"Er hynny, mi ydyn ni yn cydnabod oherwydd y niferoedd uchel o landlordiaid sydd yn ymweld â'r wefan i gofrestru ac i wneud cais am drwydded, mae rhai yn wynebu anawsterau."
Mae'r llefarydd hefyd yn dweud bod staff yn gweithio'n galed i leihau amseroedd amser ar gyfer cwsmeriaid ac unwaith y bydd y dyddiad cau wedi pasio y bydd pwerau gorfodi yn cael eu defnyddio mewn ffyrdd synhwyrol a chymesur.