Dedfrydu llanciau am 'anhrefn' Casnewydd

  • Cyhoeddwyd
Facebook footage of the disorder in Pill, NewportFfynhonnell y llun, Facebook
Disgrifiad o’r llun,

Lluniau ar wefannau cymdeithasol o'r trafferthion yng Nghasnewydd

Mae pum llanc wedi cael eu dedfrydu ar ôl cyfadde' bod yn rhan o anhrefn a welodd rhan o ganol Casnewydd "dan warchae".

Fe gafodd tân gwyllt eu taflu at yr heddlu ac fe wnaeth gyrwyr ddisgrifio "bomiau petrol" yn cael eu taflu at geir yn ardal Pilgwenlli ar 20 Hydref.

Cafodd tri llanc 16 ac 17 eu dedfrydu i bum mis mewn canolfan ieuenctid yn Llys Ieuenctid Cwmbrân ddydd Mawrth.

Fe gafodd dau lanc 13 oed orchymyn atgyfeirio am 12 mis, ond heb ddedfryd o fod dan glo.

Roedd y pump - nad oes modd cyhoeddi eu henwi am resymau cyfreithiol - wedi pledio'n euog i gyhuddiadau o achosi anhrefn treisiol.

Dywedodd y barnwr David Parsons na ellid ystyried dedfrydau eraill oherwydd yr "ymddygiad anghyfreithlon a diymatal".

Ychwanegod fod gan y llys "ddyletswydd i amddiffyn y cyhoedd yn eu cartrefi neu fusnesau neu ar y stryd".

"Rhaid i'r rhai sy'n rhan o ddigwyddiad o'r maint yma gael eu cosbi yn gyfatebol."