Cynghorau ar draws Cymru i dderbyn ffoaduriaid

  • Cyhoeddwyd
FfoaduriaidFfynhonnell y llun, Reuters

Mae disgwyl i gynghorau ar draws Cymru dderbyn ffoaduriaid o Syria erbyn diwedd y flwyddyn meddai Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC).

Mae'r gymdeithas yn dweud bydd mwy na 300 o ffoaduriaid wedi eu hail gartrefu yng Nghymru ym mlwyddyn gyntaf rhaglen ailgartrefu llywodraeth San Steffan.

Yn y gorffennol, mae awdurdodau lleol wedi eu beirniadu am beidio â chynnig llety i ffoaduriaid o Syria yn ddigon cyflym.

Ond mae CLlLC yn dweud bod y feirniadaeth yn annheg.

Mae Llywodraeth Prydain wedi dweud y bydd 20,000 o bobl Syria ym Mhrydain erbyn 2020.

Roedd adroddiadau yn yr haf mai dim ond naw o'r 22 o gynghorau yng Nghymru oedd yn rhan o'r rhaglen erbyn diwedd Mehefin.

Ond mae CLlLC wedi dweud wrth aelodau cynulliad ar y pwyllgor cydraddoldeb y bydd yr "holl awdurdodau wedi derbyn teuluoedd sydd yn ffoaduriaid i'w hardaloedd lleol" erbyn diwedd y flwyddyn.

"Tra bod yna ychydig o feirniadaeth bod awdurdodau lleol ddim yn ymateb yn ddigon cyflym, ar gyfer yr awdurdodau hynny gyda phrofiad cyfyng, roedd gwneud yn siŵr bod yna gynlluniau priodol yn eu lle er mwyn sicrhau proses ailgartrefu oedd wedi ei rheoli yn iawn yn allweddol, " meddai'r gymdeithas mewn llythyr at y pwyllgor.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Fe fydd CLlLC yn rhoi tystiolaeth lafar i ACau ddydd Iau.

Mae'r dystiolaeth ysgrifenedig gan CLlLC hefyd yn dweud bod cynllun gweithredu Llywodraeth Cymru ynglŷn â ffoaduriaid a cheiswyr lloches yn "gyfyngedig yn ei phroffil ac effaith ar draws cynghorau lleol."

Y Swyddfa Gartref sy'n gyfrifol am bolisïau ym maes mewnfudo a cheiswyr lloches ond mae Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am nifer o'r gwasanaethau sydd yn eu cefnogi.

Mae'r cynllun cyflenwi yn rhestru nifer o bethau maen nhw'n disgwyl asiantaethau, gan gynnwys cynghorau i'w gweithredu, fel iechyd meddwl a chartrefi.

Wrth gydnabod bod nifer fydd yn gweithio yn y meysydd gwahanol yn ymwybodol o'r cynllun, mae CLlLC yn dweud nad oed yna "ddim mecanwaith" yn ei le er mwyn i Lywodraeth Cymru godi ymwybyddiaeth am y cynllun.

Ffynhonnell y llun, AFP

Ceiswyr lloches a ffoaduriaid yng Nghymru yw testun ymchwiliad y pwyllgor cydraddoldeb.

Dywedodd llefarydd Llywodraeth Cymru ei bod yn bwriadu diweddaru'r cynllun a gafodd ei gyhoeddi gyntaf ym mis Mawrth 2016.

Maen nhw hefyd yn dweud mai dogfen fyw yw'r cynllun gweithredu a'i bod yn "croesawu unrhyw adborth fydd yn ychwanegu at effeithiolrwydd y cynllun."

Dywed y llefarydd bod y cynllun yn barod wedi arwain at newidiadau positif i ffoaduriaid a cheiswyr lloches sydd yn cynnwys hyfforddi pobl broffesiynol ynglŷn â materion penodol yn ymwneud â cheiswyr lloches a ffoaduriaid.