'Diffyg dealltwriaeth' o flinder cronig medd dioddefwr

  • Cyhoeddwyd
Alwen a Sian MenssamahFfynhonnell y llun, Alwen Menssamah
Disgrifiad o’r llun,

Dim ond yn ddiweddar mae Alwen Menssamah (chwith) wedi gallu rheoli ei chyflwr

Mae angen gwella'r ddarpariaeth i gleifion sy'n dioddef o syndrom blinder cronig, yn ôl teulu dioddefwraig o sir Conwy.

Mae Alwen Menssamah, sy'n 21, wedi bod yn dioddef o'r cyflwr ers iddi fod yn 15, ac mae'n dweud ei fod wedi newid ei bywyd.

Yn ôl WAMES, y gymdeithas sy'n cynrychioli dioddefwyr syndrom blinder cronig yng Nghymru mae 'na "ddiffyg dealltwriaeth o'r cyflwr yma gan y cyhoedd ac ymysg rhai o fewn y proffesiwn meddygol".

Dywedodd Llywodraeth Cymru bod pob bwrdd iechyd i fod i baratoi cynlluniau i gwrdd ag anghenion eu hardaloedd.

'Newid fy mywyd'

Yn siarad ar raglen y Post Cyntaf, dywedodd Alwen: "Mae'r salwch wedi newid fy mywyd.

"Roeddwn yn gwrthod derbyn fod 'na rhywbeth o'i le. Cyn mynd yn sâl roeddwn wastad yn gwneud rhywbeth.

"Dim ond yn ddiweddar dwi wedi gallu rheoli'r salwch a chymryd cawod pob dydd heb ei fod o'n hanner fy lladd."

Dywedodd mam Alwen, Sian, ei bod hi'n "anodd gwybod ble mae'r doctoriaid gorau er mwyn trin yr afiechyd" ac yn "ychydig o loteri côd post".

Mae Sian hefyd yn teimlo fod 'na stigma yn perthyn i'r salwch: "Mae dioddefwyr yn ei chael hi'n anodd gwneud nifer o bethau. Mae rhai pobl sydd ddim yn deall yn dweud mai pobl ddiog ydyn nhw.

"Alwen oedd y ferch fwya' bywiog allan o'r tri o blant sydd gennym ni. Felly mae hyn wedi bod yn erchyll iddi hi."

'Dim un bilsen yn cael gwared ohono'

Fe ddywedodd y meddyg teulu, Dr Harri Pritchard, fod cyflwr blinder cronig yn "gyffredin ond difrifol iawn".

"Tydi meddygon ddim yn siŵr beth sydd yn ei achosi a does 'na ddim un bilsen sydd yn gallu cael gwared ohono."

Mae Alwen yn ceisio rheoli ei salwch drwy ddiet a thriniaeth amgen, ac mae hi'n hyderus y bydd hi'n gwella yn y dyfodol.

Yn ôl llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Y Byrddau Iechyd sy'n gyfrifol am gwrdd ag anghenion iechyd y bobl yn eu hardal, a gofynnwyd iddynt baratoi cynlluniau gweithredu tair blynedd sy'n nodi sut y byddant yn darparu gwasanaethau ar gyfer pobl sy'n dioddef o Enseffalomyelitis Myalgig/Syndrom Blinder Cronig a Ffibromyalgia yng Nghymru.

"Mae gofyn iddynt gyhoeddi'r cynlluniau hyn ar eu gwefan."