Ffordd osgoi A483 ger Llandeilo: Dechrau gwaith yn 2019
- Cyhoeddwyd
Bydd gwaith ar ffordd osgoi yr A483 ger Llandeilo, Sir Gâr yn dechrau cyn diwedd 2019, yn ôl Ysgrifennydd yr Economi.
Gobaith Ken Skates AC yw i'r ffordd newydd fod ar agor ddwy flynedd wedi hynny yn 2021.
Cafodd buddsoddiad o £50m ar gyfer y ffordd i'r dwyrain o'r dref ei gyhoeddi fel rhan o gynlluniau gwerth £83m gan Lywodraeth Cymru i dalu am gynlluniau ffyrdd a thrafnidiaeth.
Daeth y cyhoeddiad ynglŷn â'r arian yn dilyn cytundeb cyllideb rhwng Plaid Cymru a Llafur.
Mae canol Llandeilo yn gallu bod yn brysur wrth i gerbydau o'r de orllewin deithio drwy'r dref i gyrraedd ffordd yr A40.
Dywedodd Mr Skates: "Bydd y rhofiau yn y pridd, gobeithio, cyn diwedd 2019 ac rwy'n rhagweld agor y ffordd ddwy flynedd wedi hynny."
Effaith ar fusnes?
Ond mae'r cynllun i adeiladu ffordd osgoi wedi codi pryderon gan rai perchnogion busnesau yn y dref, sy'n poeni y bydd llai o siopwyr yn dod i'r dref.
Dywedodd Ann Richards o siop Igam Ogam: "I fi'n bersonol, licen i weld bod y bont hanesyddol sydd 'da ni'n Llandeilo'n yn cal y loris tryma' ddim yn mynd drosto fe. Bod rhaid iddyn nhw fynd rownd tuag at Caerfyrddin.
"Fi dal ishe'r ceir i ddod trwyddo i cal gweld beth sydd da ni yn Llandeilo i'w gynnig."
Dywedodd Caryl Davies o Rigout Boutique: "Ma' ishe ffordd osgoi arno ni, y broblem ar hyn o bryd yw dy'n ni ddim yn gwbod pa ffordd, a fel ma fe'n mynd i effeithio ar y busnesau, a'r bobl sy'n byw yn y tai hefyd.
"Ma' lot o draffig yn mynd trw' dre. Ma' fe'n gallu bod yn broblem gyda teuluoedd sydd gyda prams. Ma' parco'n broblem, so ma rhaid i rhywbeth cal ei wneud."
Dywedodd Hazel Evans, aelod o Fwrdd Gweithredol Cyngor Caerfyrddin sydd â chyfrifoldeb am yr amgylchedd, y byddai pobl leol a busnesau lleol yn elwa o gael ffordd osgoi.
"Dwi'n falch eu bod nhw wedi rhoi amserlen o pryd fydd e'n digwydd. Mae'n gadarnhaol iawn.
"Mae siopau mor unigryw yn Llandeilo a bydd e'n haws i bobl fynd i mewn i'r dre .
"Nawr ma' bobb yn mynd off y lle oherwydd bod traffig mor wael yn mynd trwy dre."