Gwella cyfleusterau parcio a chodi tâl ger Pen y Fan?
- Cyhoeddwyd

Mae 'na bryder ei bod hi'n gallu bod yn beryglus ar yr A470 pan fydd ceir yn parcio wrth ymyl y ffordd
Mae'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gofyn am farn pobl am gynllun i wella'r safle parcio wrth droed Pen y Fan ym Mannau Brycheiniog.
Mae tua 250,000 o bobl yn ymweld â'r mynydd bob blwyddyn, ac mae pryder ers tro nad oes digon o le parcio yno.
Y bwriad yw gwella'r maes parcio ym Mhont ar Daf wrth ymyl ffordd brysur yr A470, a chodi tâl am wneud hynny.
Yn ôl yr ymddiriedolaeth, bydd yr arian fydd yn cael ei godi yn mynd at gynnal a chadw'r llwybrau yn y bannau.
Yn ôl John Meurig Edwards o Aberhonddu, mae angen sicrhau nad yw'r tâl am barcio yn afresymol.
Y disgwyl yw y bydd lle i 250 o geir yn y maes parcio, ac mae'r ymddiriedolaeth yn cynnal ymgynghoriad fydd yn parhau tan 28 Ionawr.

Darlun o'r maes parcio newydd arfaethedig ym Mhont ar Daf, Bannau Brycheiniog
Mae cyfle i bobl roi barn yn y mannau canlynol:
Llyfrgell Aberhonddu
Dydd Gwener 13 Ionawr 12:00 - 17:00
Dydd Sadwrn 14 Ionawr 10:00 - 13:00
Caban maes parcio Pont ar Daf
Dydd Iau 12 Ionawr 10:00 - 14:00
Dydd Sul 15 Ionawr 10:00 - 14:00