Y Kinks yn ôl yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
The Kinks
Disgrifiad o’r llun,

Mae Garmon Rhys (chwith) yn chwarae rhan y basydd, Peter Quaife

'Lola', 'Waterloo Sunset' a 'Dedicated Follower of Fashion'. Maen nhw ymhlith rhai o ganeuon enwoca'r 60au ac rŵan mae hi'n bosib ail fyw rhai o glasuron The Kinks mewn sioe gerdd sy'n olrhain hanes y band eiconig.

Er mai bechgyn o Lundain oedd y grŵp, Cymro o Ddinbych fydd yn chwarae rhan y basydd Peter Quaife yn Sunny Afternoon sydd i'w gweld yng Nghanolfan y Mileniwm, Caerdydd rhwng 17-21 Ionawr.

Bu Garmon Rhys yn sôn mwy am ei rôl a hanes y sioe wrth Cymru Fyw:

Mae'r sioe yn dilyn hanes y Kinks o'r adeg wnaethon nhw ddechrau yn eu harddegau, a sut roedden nhw'n delio gyda tyfu fyny yn y limelight. Mae'r sioe yn trin sut wnaeth eu miwsig nhw newid ac yna'r trafferthion gafon nhw wrth i'w poblogrwydd nhw dyfu.

Mae'r ddrama yn canolbwyntio yn bennaf drwy gymeriadau'r ddau frawd, Ray a Dave Davies. Rhain oedd y 'brodyr Gallagher' gwreiddiol i ddweud y gwir, gyda lot o ffraeo ac anghytuno rhyngddyn nhw. Roedd hyn mewn ffordd yn ychwanegu at apêl y band.

'Da ni'n perfformio ar ffurf musical a mi fyswn i'n deud bod y sioe rhyw hanner ffordd rhwng mynd i weld drama a mynd i weld gig.

Y Cymodwr

Y cymeriad dwi'n chwarae ydi Pete Quaife, sef basydd y Kinks. Mae'n rôl ddiddorol achos roedd Pete yn gymeriad oedd yn ffeindio'i hun yng nghanol y cyfan ac yn aml rhwng y ddau frawd a oedd yn ffraeo.

Roedd Pete yn gorfod dod i arfer â'r ffaith ei fod yn rockstar dros nos, ond doedd y bywyd ddim cweit fel yr oedd o wedi ei ddychmygu nag eisiau. Roedd aelodau'r band yn delio efo enwogrwydd mewn ffyrdd gwahanol, ac mae hynny i'w weld yn y sioe.

Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Garmon ymddangos yn yr ail gyfres o 35 Diwrnod ar S4C y llynedd

Cyn cael y rôl yma ro'n i'n sicr yn gwybod am y Kinks a'u dylanwad ar fandiau heddiw - fe wnaethon nhw siapio lot o'r stwff 'da ni'n ei gymryd yn ganiataol y dyddia' 'ma fel distortion a fuzzy guitar. Ond ar ôl imi gael y rôl es i wrando ar y backcatalogue a sylweddoli 'wow, mae rhain yn class!'

Mae 'na resyma' pam wnaethon nhw ddim cyrraedd uchelfannau y Beatles a'r Rolling Stones.

Fe wnaeth y ddau fand yna 'gracio' America, ond cafodd y Kinks eu gwahardd o'r wlad am bedair blynedd (pan oedden nhw ar eu gorau) oherwydd ffrae gyda undebau cerddorion yno.

Mae'r Kinks yn cael eu anghofio weithiau, ond dwi'n gobeithio bod y sioe yma'n atgoffa pobl o'u talent a'u miwsig nhw.

Cydweithio â Ray Davies

Roedd Ray wastad yn y rhagbrofion, a fo oedd yn rhoi y tic olaf yn y bocs ar y dewisiadau. Roedd o'n dod fewn i wrando ar ymarferion y band yn y stiwdio yng ngogledd Llundain hefyd.

Mae'n foi neis iawn, yn ddistaw iawn, ond mae ganddo ryw stone cold glare lle ro'n i'n gwbod bod rhaid gweithio'n galed er mwyn ei blesio fo.

Disgrifiad o’r llun,

Garmon gyda chyd-aelodau The Kinks yn y sioe. Ray Davies, sylfaenydd y band gwreiddiol, sydd yn y canol

Mae hon yn ran wahanol i'r hyn dwi 'di ei wneud o'r blaen. Mae gan bob rhan ei heriau gwahanol.

Yn y sioe yma dwi'n gorfod canu, chwarae'r gitar, dawnsio 'chydig bob hyn a hyn heb sôn am actio'n ffordd drwy'r cyfan.

Mae'r sioe'n para tua dwy awr a hanner ac mae'n cymryd lot o egni i wneud gymaint o sioeau mewn cyfnod byr - mae angen lot o stamina, yn gorfforol, lleisiol a bob dim arall.

Bydda ni'n perfformio yng Nghaerdydd wyth gwaith mewn pum diwrnod, felly 'da ni'n eitha' prysur. Mae'r daith yn gorffen yng nghanol mis Mai. Naethon ni ddechrau ymarferion fis Mehefin diwetha' felly mae'r rôl wedi cymryd bron blwyddyn gyfa' imi.

'Naeth fy rhieni ddod i weld y sioe ym Manceinion ar ddechrau'r daith, ond mae 'na rai eraill o fy nheulu a ffrindi'a hefyd yn dod i'n gweld ni yng Nghaerdydd.

Dod adre

Dwi'n edrych ymlaen at berfformio yng Nghaerdydd, dim just achos bo' fi 'di bod i'r coleg yma, ond bydd Canolfan y Mileniwm yn arbennig iawn. Mae'n neuadd fawr sy'n dal tua 2,500 o bobl ac mae'n un o'r llefydd efo'r acoustics gorau ym Mhrydain.

Mi o'n i hefyd wrth fy modd yn perfformio yn Glasgow - roedd o'n boncyrs yno. Roedd y bobl yno isho mwynhau ac roedd yr ymateb gafon ni yn wych. Roedd y lle yna'n llawn efo tua 1,800 o bobl yno ac roedd hi just yn noson dda iawn gyda phawb ar eu traed erbyn diwedd y nos.

Mae actio yn y sioe 'di bod yn brofiad gwych i fi a dwi'n edrych 'mlaen i'r sialens nesa' fydd yn profi fy ngallu mewn ffordd wahanol, boed hynny yn gynhyrchiad bach neu waith teledu.

Sunny Afternoon, Canolfan Mileniwm Cymru, 17-21 Ionawr