Ychwanegu 18 milltir at lwybr arfordir Cymru
- Cyhoeddwyd

Jim Craven, Stephen Lewis, Danielle Duncan a'r cynghorydd Richard Lloyd yn helpu i osod arwyddion ar gyfer y llwybr newydd
Mae cyswllt newydd wedi cael ei ychwanegu at y llwybr 870 milltir o hyd sydd o amgylch arfordir Cymru.
Mae'r rhan newydd 18 milltir o hyd yn ychwanegu at y llwybr yn Sir y Fflint, gan ymuno â'r llwybr ger y ffin yn Saltney Ferry, Sir Caer.
Mae'r llwybr yn ymestyn dros bedair sir, gan ymgyffwrdd â rhannau o Wrecsam yng Nghaergwrle, a llwybr Clawdd Offa yng nghoedwig Llandegla yn Sir Ddinbych.
Fe sicrhaodd Cyngor Sir y Fflint £30,000 mewn cyllid i dalu am arwyddion i'r llwybr.
"Os ydych yn chwilio am dipyn o her wrth gerdded o amgylch Cymru, mae'r llwybr hwn yn addas i chi," meddai'r cynghorydd Bernie Attridge, aelod cabinet dros yr amgylchedd.
Llwybr Arfordir Cymru yw'r llwybr cyntaf o'i fath yn y byd, ac fe ddechreuodd y gwaith o osod y llwybr yn 2007, gan agor yn swyddogol ym mis Mai 2012.