Gwerth y bunt

  • Cyhoeddwyd
al

Mae ei dyfodol hi wedi bod yn y penawdau ers misoedd ac yr wythnos hon bydd hi'n newid ei hedrychiad.

Mae trafod gwerth y bunt wedi bod yn bwnc llosg cyson ers y refferendwm i adael yr Undeb Ewropeaidd ac ynghanol yr holl ansicrwydd ddaeth yn sgil y bleidlais honno mi fydd y bunt yn newid o ddarn crwn i fod yn un amlochrog.

Mae degau o filoedd o beiriannau a throliau mewn archfarchnadoedd wedi gorfod cael eu haddasu i dderbyn y bunt newydd deuddeg ochr.

Yn y cyfamser mae'r Bathdy Brenhinol yn Llantrisant wedi bod yn brysur tu hwnt dros y misoedd diwetha yn cynhyrchu'r pres newydd. Aeth Alex Humphreys, cyflwynydd Ffeil i weld y broses drosti ei hun ac i glywed rhagor am y bunt newydd.

Disgrifiad,

Alex Humphreys o Ffeil yn clywed mwy am y darn arian newydd

Dydy'r broses o doddi a chreu darnau arian ddim wedi newid yn syfrdanol ers canrifoedd, ond wrth gwrs gyda'r angen i greu darnau sy'n anoddach i'w ffugio mae'r dechnoleg ddiweddara' yn hanfodol erbyn hyn.

Ffynhonnell y llun, Y Bathdy Brenhinol Llun: Andrew Molyneux

Mae'r rhan fwyaf o ddarnau arian yn dechrau ar ffurf ingotiaid..

Ffynhonnell y llun, Y Bathdy Brenhinol Llun: Andrew Molyneux

Neu'n cael eu toddi o ddarnau o weiren.

Ffynhonnell y llun, Y Bathdy Brenhinol

Mae angen gwres o 850 gradd i doddi'r metalau cyn i'r gymysgfa gael ei thywallt i ffwrnais arall. Wedi hynny mae peiriannau yn gwneud y gwaith o wahaniaethu rhwng y metel sy'n ddigon safonol i wneud darnau arian tra bod y metel sydd ddim yn cyrraedd y gofynion yn cael ei wahanu.

Ffynhonnell y llun, Andrew Molyneux

Pan fydd y gymysgfa wedi oeri 'chydig a'r metel diffygiol wedi cael ei dynnu o'r broses, bydd profion pellach yn cael eu cynnal ar ansawdd y metel trwy gydol y broses o greu'r darnau arian.

Ffynhonnell y llun, Y Bathdy Brenhinol

Mae'r metel yn cael ei roi drwy beiriannau sydd yn ei gywasgu yn stribedi tenau. Erbyn hyn mae 'na sglein ar y metel sy'n gwbl wahanol i'r cynnyrch amrwd gyrhaeddodd y Bathdy. Mae'r metel yn cael ei symud o fan hyn i felin sy'n cywasgu'r metel i'r un trwch a'r darnau arian.

Ffynhonnell y llun, Y Bathdy Brenhinol

Mae'r stribedi metel yn cael eu storio am gyfnod cyn cael eu hanfon i'r peiriant sy'n torri y siapiau arian. Mae peiriant arbennig ar gael i wneud y gwaith o lunio siap y bunt newydd gan bod ganddi hi ddeuddeg ochr.

Ffynhonnell y llun, Andrew Molyneux

Mae angen llygad barcud i wneud yn siwr bod y darnau sy'n cael eu torri yn gyson ac i'r safon

Yn achlysurol mae aelodau'r cyhoedd wedi eu gwahodd i gynnig dyluniadau ar gyfer darnau arian newydd. Ymhlith yr unigolion sydd wedi cael llwyddiant ar wneud hynny ydy Esgob Llanelwy, y Gwir Barchedig Gregory Cameron. Er na chafodd e lwyddiant gyda'i gynnig ar gyfer y darn punt newydd, mae tri o'i ddyluniadau wedi cael eu hargraffu gan gynnwys cynllun ar gyfer y darn punt crwn ola, darn £20 i ddathlu'r Nadolig a darn arbennig i nodi pen-blwydd saffir teyrnasiad y Frenhines. Meddai wrth Cymru Fyw:

"Rwy' wedi bod â diddordeb mewn darnau arian ers fy mhlentyndod ac mae herodraeth (heraldry) ac arlunio ymhlith fy niddordebau ysol eraill. Yn y gorffennol rwy' wedi cynllunio ambell beth herodrol arall, megis arfbais Archesgob Rowan Williams ac elfennau o Hunaniaeth Gorfforaethol yr Eglwys yng Nghymru."

Ffynhonnell y llun, Andrew Molyneux

Mewn rhan arall o'r Bathdy mae'r templedau ar gyfer y darnau arian yn cael eu paratoi. Tra bod hyn yn digwydd mae'r darnau metel eu hunain yn mynd trwy broses lanhau arall cyn eu bod yn barod i gael eu gwneud yn ddarnau arian swyddogol.

Wedi i'r darnau metel gael eu gorchuddio mewn haenen denau o bres, nicel neu gopr maen nhw yn cael sawl bath sy'n eu glanhau a sicrhau bod eu lliwiau yn gyson. Maen nhw yn cael eu archwilio ymhellach am unrhyw gamgymeriadau a'u rhoi mewn peiriant sy'n gwneud yn siwr bod pob maint yn gyson.

Wedi hynny maen nhw'n cael eu paratoi i'w dosbarthu i'r banciau.

Disgrifiad o’r llun,

Newid er gwell?

Ffeil, S4C, Dydd Llun-Gwener, 17:55

(Diolch i'r Bathdy Brenhinol am ganiatad i ddefnyddio'r lluniau. Andrew Molyneux ydy'r ffotograffydd)