Y darn arian punt newydd ar gael am y tro cyntaf
- Cyhoeddwyd
Bydd y darn £1 newydd ar gael am y tro cyntaf ddydd Mawrth, gyda'r Bathdy Brenhinol yn honni mai dyma'r darn arian "mwyaf diogel yn y byd".
Mae'n debyg bod un o bob 30-40 darn £1 presennol yn ffug, ond mae'r darn arian newydd 12-ochr bron yn amhosib i'w ffugio.
Dyma'r tro cyntaf i'r bunt newid mewn dros 30 mlynedd.
Mae Caerdydd yn un o 14 dinas ar draws y DU ble y bydd hi'n bosib cael gafael ar y darn arian newydd ddydd Mawrth.
Dywedodd y Bathdy Brenhinol bod nodweddion fel darlun sy'n gweithio fel "hologram" ac ysgrifen fach iawn yn helpu i'w wneud yn anodd ei ffugio.
Mae gan y cyhoedd hyd at 15 Hydref eleni i wario'u darnau £1 presennol, ac ar ôl hynny bydd yn rhaid eu cyfnewid mewn banc.
Ond mae'r darn arian newydd yn debygol o achosi trafferthion i rai busnesau, gydag unrhyw beiriant sy'n cymryd arian angen ei ddiweddaru.
Bydd archfarchnadoedd ble mae angen rhoi darn £1 mewn trolïau hefyd angen newid y teclynnau.
Bydd y darn £1 newydd ar gael yng Nghaerdydd ddydd Mawrth ym manciau Barclays yng Nghanolfan Dewi Sant, Lloyds ar Heol y Frenhines a HSBC ar Churchill Way.