Actor yn dilyn hanes ei daid aeth i Sbaen i frwydro Franco
- Cyhoeddwyd
Bydd yr actor Richard Harrington yn dilyn ôl traed ei daid, a adawodd adref i fynd i ymladd yn Rhyfel Cartref Sbaen, mewn rhaglen ddogfen newydd.
80 mlynedd yn ôl fe adawodd Timothy Harrington nodyn i'w wraig Sally a'u pump o blant yn dweud dim byd ond "wedi mynd i Sbaen".
Roedd yn un o 4,000 o wirfoddolwyr o Brydain aeth i Sbaen i frwydro yn erbyn y Cadfridog Franco a thwf ffasgaeth yn y wlad yn 1937.
Bydd ei hanes e, ac eraill wnaeth adael cymoedd de Cymru i ymuno yn y rhyfel, yn cael ei adrodd yn rhaglen ddogfen My Grandfather's War.
Smyglo dros y ffin
Er na wnaeth llywodraeth y DU gefnogi'r naill ochr na'r llall yn swyddogol, fe wnaethon nhw ddatgan ei bod hi yn erbyn y gyfraith i unrhyw un o Brydain deithio i Sbaen i gefnogi'r gweriniaethwyr yn eu brwydr yn erbyn y ffasgwyr.
Ond wnaeth hynny ddim atal Timothy Harrington a miloedd eraill, a deithiodd i Ffrainc gyntaf cyn cael eu smyglo dros y ffin i ymuno yn y rhyfel.
Unwaith roedden nhw yno fe wnaethon nhw ymuno â'r Frigâd Ryngwladol, grŵp o 30,000 o filwyr o dramor oedd yno i frwydro dros yr un achos.
Ond gyda'r Almaen a'r Eidal yn darparu arfau i fyddin Franco roedd hi'n dalcen caled, ac ar ôl brwydro am 10 diwrnod i geisio amddiffyn Madrid cafodd Harrington ei symud er mwyn cymryd pentrefi strategol eraill.
Daeth rhyfel Timothy Harrington i ben pan ollyngodd yr Almaenwyr napalm arno fe a'i gyd-filwyr, a dychwelodd i Ferthyr Tudful at ei wraig a'i deulu.
Yn y rhaglen ddogfen mae ei ŵyr Richard yn cyfarfod pobl sydd yn parhau i gefnogi Franco hyd heddiw, yn ogystal â phlant ysgol sydd ddim yn ymwybodol o lefel yr erchyllterau a ddigwyddodd yng nghenhedlaeth eu teidiau.
"Nid dyma'r Sbaen heulog 'dych chi'n ei weld pan chi'n hedfan draw 'ma. Mae e'n ffieiddio. Does dim cariad yma o gwbl," meddai wrth ymweld â beddi rhai o'r milwyr fu farw.
Mae hefyd yn cyfarfod athro sydd yn gofyn i'r disgyblion beth sydd orau - democratiaeth neu unbennaeth? "Democracia!" yw ateb pendant y disgyblion.
Mae 'Richard Harrington: My Grandfather's War' ymlaen nos Sadwrn am 21:00 ar BBC 2.