Yr ifanc a ŵyr? Osian Roberts ac Ellis Wyn Roberts

  • Cyhoeddwyd
Teulu Osian RobertsFfynhonnell y llun, Osian Roberts
Disgrifiad o’r llun,

Y teulu: Osian, Llinos, Olwen ac Eirian yn y cefn a'u rhieni, Ellis Wyn Roberts a'i wraig Ann

Pwy feddyliai fod yna debygrwydd rhwng adrodd mewn eisteddfod a hyfforddi tîm pêl-droed cenedlaethol?

Yn ôl Osian Roberts, Rheolwr Cynorthwyol tîm pêl-droed Cymru, mae'r gwersi adrodd a gafodd gan ei dad wedi bod yn "help aruthrol" i'w waith fel hyfforddwr pêl-droed.

Cafodd Osian Roberts ei fagu ym Modffordd, Ynys Môn, yn un o bedwar o blant ac yn unig fab ynghanol tair merch: Olwen, Llinos ac Eirian.

Adeiladwr hunan-gyflogedig oedd ei dad, Ellis Wyn Roberts, sy'n briod ag Ann. Mae hefyd yn adnabyddus fel adroddwr, hyfforddwr, arweinydd eisteddfodau a chyn-gadeirydd Cymdeithas Eisteddfodau Cymru.

Mae'r ddau wedi eu hanrhydeddu gan Eisteddfod Genedlaethol 2017 - Osian yn Llywydd yr Ŵyl ac Ellis yn un o'r llywyddion anrhydeddus.

Fe ofynnon ni iddyn nhw roi darlun o'i gilydd inni.

Ellis Wyn Roberts am ei fab: "Cymro i'r carn"

Ffynhonnell y llun, BBC Sport

Roeddan ni'n byw mewn tŷ bychan ar y ffordd allan o'r pentre a phan oedd o ddim ond ryw dair oed neu lai, roedd y bêl bron iawn yn fwy na fo, chwarae fydda fo - mynnu chwarae ar y lôn er bod 'na gae yn ymyl.

Toes na fawr o chwarae pêl-droed yn perthyn imi ond roedd gen i ddiddordeb mewn gweld y plant wrthi ac ro'n i'n un o'r rhai efo Tegwyn Williams ac Idris Charles ac eraill oedd yn sefydlu'r timau bach oedd yn y pentrefi - ac roedd Osian yn rhan ohonyn nhw.

Roeddan ni'n mynd o gwmpas efo nhw ar ddydd Sadwrn yn y fan i wahanol lefydd ar ddechrau'r gynghrair iau sydd wedi tyfu yn Sir Fôn erbyn hyn.

Perffeithydd

Mae o 'rioed wedi bod isho gwneud bob dim o ddifri' - does 'na ddim dadl mai o ochr ei fam mae'r awydd i gael bob dim yn iawn yn dod.

Y bêl-droed oedd yn cael y lle cyntaf ganddo ond mae dylanwad yr Ysgol Sul a'r steddfod leol yn fawr arno fo hefyd.

Roedd Steddfod Bodffordd yn rhan o'r teulu ac roedd o'n cystadlu ar yr adrodd, neu'r llefaru erbyn hyn. Mi ddaeth yn ail ddwywaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol hefyd.

Doedd gan Osian ddim diddordeb dod i adeiladu efo fi, roedd hynny'n bendant.

Mi fuodd yn chwarae i wahanol dimau lleol a phan oedd o'n chwarae efo tîm Bethesda mi gafodd gynnig ysgoloriaeth bêl-droed i Brifysgol Furman yn America.

Roedd o wedi cael cynnig i fynd ar dreial at Lawrie McMenemy yn Southampton yn y cyfnod yna ond roedd o'n gwybod nad oedd o isho mynd i chwarae pêl-droed.

Roedd o'n cael ychydig o broblemau efo'i gefn ac mi oedd o'n ffodus iawn i gael yr ysgoloriaeth - fo oedd y Cymro cyntaf i'w chael.

Roedd o tua 18 ac rydw i'n cofio jest ei weld o'n codi ei law. Roedd hwnnw'n brofiad na wnaiff rywun fyth ei anghofio ac yn un wnaeth ddweud ar ei fam am 'chydig o amser.

Meithrinfa ym Môn

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Osian Roberts yn meithrin talent y dyfodol fel rhan o'i swydd - fe arweiniodd dîm Cymru dan 16 i fuddugoliaeth yn 20014 gan ennill y Victory Shield am y tro cyntaf ers dros 50 mlynedd

Roedd o wedi cael cymaint o flas ar yr hyfforddi ac wrth ei fodd yn ymdrin â phlant a phobl ac fe ddaeth 'na gyfle fel rhan o'r patrwm newydd iddo fo ddod yn gyfrifol am bêl-droed yn Ynys Môn.

Mi fuodd hwnnw yn sicr yn feithrinfa arbennig iddo fo gael sefyll ar ei draed ei hun a hyfforddi ieuenctid a phlant yr ynys.

Mae'n siŵr gen i fod dylanwad y bobl ryden ni wedi bod o danyn nhw ar y ddau ohonon ni.

Mae o'n sôn yn ei hunangofiant am bobl fel Charles Williams oedd yn ddylanwad mawr arno fo ym myd llefaru ac actio ac roedd ganddo barch mawr hefyd i WH Roberts, Niwbwrch. Roedd o'n medru trin a dadansoddi geiriau ac mae hynny wedi dangos i Osian fod sut mae sefyll o flaen cynulleidfa a siarad.

Balchder Euro 2016

Roeddan ni'n odiaeth o falch yn yr Euros.

Dwi'n meddwl mai be' oedd wedi rhoi'r balchder mwyaf oedd ein bod ni wedi cael clywed cymaint o Gymraeg yno.

Am unwaith bod ein hiaith Gymraeg ni wedi gwneud i bobl eraill drwy'r byd sylweddoli ein bod ni, fel Cymry, yn wlad ar ein pennau ein hunain.

Mae Osian wedi penderfynu o'r dechra bod yr iaith Gymraeg yn bwysig. Mae o'n Gymro i'r carn, does 'na ddim dadl am hynny.

Dwi'n gwybod ei fod o wedi cael cynigion i fynd i lawer lle arall ond fysa fo ddim yn mynd. Mae'n well gynno fo sicrhau bod Cymru yn cael y lle a'r sylw.

Ffynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd
Disgrifiad o’r llun,

Doedd wynebu gwasg y byd yn yr Euros yn ddim byd ar ôl blynyddoedd o gystadlu yn Eisteddfod Bodffordd...

Dylanwadau

Roedd Osian yn licio actio ac yn perfformio efo Theatr Fach Llangefni hefyd.

Fe gafodd y diweddar annwyl John Gwilym Jones wahoddiad i gynhyrchu drama yno unwaith ac mi roeddwn i a ryw ddau neu dri arall yn cymryd rhan ynddi. Roedd Osian yn dod i bob un o'r ymarferion ac yn eistedd wrth ochr John Gwilym Jones.

Ar raglen yr ŵyl ddrama mae John Gwilym Jones wedi 'sgrifennu "a diolch i'r boi bach am fod wrth fy ochr i yn gwmni".

Efallai bod rhywbeth yn hynny - fod John Gwilym mor berffaith yn y ffordd roedd o'n hyfforddi ac mae Osian eisiau i bob dim fod yn iawn bob amser hefyd.

Roedd o'n cymryd rhan mewn cystadleuthau siarad cyhoeddus efo tîm yr ysgol yn Llangefni hefyd - mae'n rhaid bod yn gyflym eich meddwl i wneud hynny.

Mi fyddai hefyd yn gweld Charles [Williams] yn cynnal ryw ddramâu mewn cylchwyliau hefyd, lle roedd rhaid cael y symudiadau'n gywir. Mae'n siŵr gen i fod y dylanwadau yma i gyd yn dod i'r amlwg rŵan.

Osian Roberts am ei dad: "Dyn ei filltir sgwâr"

Ffynhonnell y llun, Osian Roberts
Disgrifiad o’r llun,

Ellis Wyn Roberts gyda'i wyres, Ela. "Mae o’n daid arbennig iawn. Mae’r llun yma yn dangos y berthynas sydd ganddo fo hefo pob un o’i wyrion a’i wyresau," meddai Osian Roberts.

Mae Dad yn ddyn ei filltir sgwâr. Mae ei ardal wedi bod yn bwysig iawn iddo ac mae wedi rhoi cyfleoedd i eraill ar draws y sbectrwm - i blant a phobl ifanc a hefyd drwy'r clwb llenydda a'r clwb pensiynwyr sy'n un o'r cymdeithasau mwyaf bywiog ar yr ynys.

Tasa 'na rywun fel'na ym mhob pentref yng Nghymru fysan ni ddim yn mynd ymhell ohoni.

Ond teulu oedd yn dod gyntaf iddo fo.

Roedd o'n gweithio'n galed - rhaid i rywun motivatio ei hun pan mae'n gweithio iddo fo'i hun ac mae'n siŵr mai ei gymhelliant mwyaf oedd rhoi bwyd ar y bwrdd, mor sylfaenol â hynny. Felly cefndir working class go iawn oedd o.

Roeddwn i'n cael mynd efo fo yn y fan i bob man i weld y gwaith ac i helpu fel roeddwn i'n tyfu fyny. Yn anuniongyrchol dwi'n meddwl mod i wedi dysgu lot am yr oriau maith roedd o'n eu gweithio.

Ar ôl i bawb gael bwyd efo'i gilydd am bump o'r gloch pan oedd Dad yn dod adra mi fysa fo allan gyda'r nos, unai yn pwyllgora - mae o'n ysgolhaig ar drefnu pwyllgorau - neu'n mynd i brisio ryw job.

Gwrando a dysgu

Roedd wedi cystadlu ei hun mewn eisteddfodau am flynyddoedd maith, ac yn fychan iawn roeddan ni'n dechra' cael ein dysgu i adrodd yn y tŷ.

Roedd plant eraill yn dod i'r tŷ i gael eu dysgu hefyd ac roeddwn i wastad yna ac yn gwrando ar yr ymarfer ac, heb sylweddoli mae'n siŵr, yn dysgu.

Disgrifiad o’r llun,

Charles Williams a'i wraig yn eu cartref ym Modffordd lle byddai Osian yn cael ei ddysgu i adrodd

Fel ro'n i'n mynd yn hŷn, 'na'th o fy ngyrru at Yncl Charles [Charles Williams] a WH Roberts yn Nwyran i mi gael y profiad o gael fy nysgu gan rywun arall.

Mi fysa fo wedi medru yn ddigon hawdd d'eud: 'Fi sy'n dy ddysgu di, fi 'di'r atab.' Ond roedd o'n ddigon doeth i fod yn rhoi profiadau gwahanol imi fel mod i'n dysgu oddi wrth bobl wahanol.

Wnes i erioed ei weld o'n chwarae pêl-droed ond mae 'na lot o'r elfennau hyfforddi dwi'n eu defnyddio yn debyg i'r rhai ro'n i'n cael fy nysgu pan o'n i'n iau.

Dwi wedi cael ambell i sgwrs efo Dad ynglŷn â'r tebygrwydd rhwng sgiliau hyfforddi a llefaru.

Yn lle dweud 'dyma sut dwi isho i chdi ddweud y frawddeg yma' roedd WH a Dad yn trio ei dynnu allan ohona i. Roedd o'n fwy am gyfleu'r teimlad - 'dyma be' rwyt ti'n ei deimlo, dyma be' ydan ni'n drio'i dd'eud, sut fysa chdi'n ei dd'eud o?'

Mae hynny'n union 'run fath a be' dwi'n ei wneud mewn pêl-droed.

Dwi ddim yn dweud wrth chwaraewr unigol 'dwi isho i chdi gael y bêl a gwneud hyn, hyn a hyn' fel robot oherwydd dydi'r gêm ddim yn gweithio fel'na - mae pob sefyllfa yn hollol wahanol.

Dydi un ateb ddim yn gweithio i bob sefyllfa felly ti'n trio canolbwyntio ar yr egwyddorion a thynnu allan o'r chwaraewyr sut maen nhw'n medru datblygu'r gallu i feddwl drostyn nhw eu hunain.

Hefyd dydi bod mewn sefyllfa lle rwyt ti allan o dy comfort zone, yn nerfus, yn mynd o flaen pobl a phob math o bethau'n mynd ymlaen yn dy feddwl, ddim yn annhebyg i fod ar ochr cae mewn gêm fawr lle rwyt ti'n gorfod gwneud penderfyniadau.

Act ydy hyfforddi

Ffynhonnell y llun, David Rawcliffe
Disgrifiad o’r llun,

Osian ar ochr y cae gyda Chris Coleman a thîm Cymru

Toes 'na ddim byd gwahanol i fod ar lwyfan neu mewn prilim i fod yn siarad mewn ystafell newid ar hannar amser neu cyn gêm fawr.

Do'n i ddim yn gwybod hynny ar y pryd ond roedd hi'n brentisiaeth reit dda sydd wedi fy helpu yn aruthrol yn fy ngyrfa.

Dwi'n cofio Dad hefyd yn gwneud drama efo Dr John Gwilym Jones, Bangor, yn Theatr Fach Llangefni. Ro'n i'n lwcus mod i'n mynd efo Dad i'r ymarferion i gyd ac yn gwrando ar John Gwilym Jones yn eu dysgu nhw sut i siarad ac actio ac yn y blaen.

Mi fydda i'n deud wrth hyfforddwyr y dyddiau yma yn union yr un peth - mai actydi o.

Pan ti'n mynd allan fora dydd Llun i 'neud sesiwn ymarfer ac ella ddim yn teimlo fel mynd allan i'r cae y bora hwnnw - efallai mai dyna'r peth diwetha' rwyt ti isho'i wneud am bob math o resymau - ond y munud rwyt ti'n camu ar y cae yna, mae'n rhaid i chdi fod yn barod i berfformio.

Ennill a cholli

Dydi hi ddim yn hawdd iddyn nhw fod yn rieni imi weithia'. Mewn gêm fel pêl-droed ti'n mynd i ennill, ac yn sicr ti'n mynd i golli.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Osian Roberts yn dathlu gyda Gareth Bale a Chris Coleman wrth i Gymru guro Cyprus 1-0 yn 2015

Mae 'na adegau lle mae'n anodd iawn iddyn nhw bryd hynny. Mae'n rhan annatod o be' dwi'n ei ddeall ond mae'n anoddach iddyn nhw achos dydyn nhw ddim wedi dewis y byd yma, fi sydd wedi ei ddewis.

Ac efallai ddeith o eto - pwy sydd i wybod? Os nag ydan ni'n cyrraedd rowndiau terfynol Cwpan y Byd yn Rwsia mi fydd pobl yn d'eud: 'Reit sacio Chris Coleman ac Osian Roberts' - mae'r dyddia' yna jyst rownd y gongl.

Ond dim ots be' arall sy'n digwydd, fedrith neb fyth dynnu'r Euros oddi wrthyn nhw.

Dwi'n ffodus fod gen i fam a thad sydd wedi byw i oedran da ac wedi cael gweld bod yr holl gefnogaeth a'r ymddiriedaeth roeson nhw yn y dechra' yn y llyfrau hanes am byth, beth bynnag arall.

Maen nhw wedi chwarae rhan annatod yn be' dwi wedi ei gyflawni.

Dwi 'di clywed y dywediad 'the greatest gift my father gave me was to believe in me' a dyna beth wnaeth Mam a Dad - ymddiried ynof fi. Dyna be' dwi'n drio'i neud efo fy mhlant fy hun. Dwi eisiau eu galluogi i gael yr un cyfle â ges i - sy'n dweud cyfrolau am y ffordd ges i'n nwyn i fyny.