Cwest Llanrwst: Tân o sychwr 'ddim yn anochel'

  • Cyhoeddwyd
Cwest Llanrwst
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Doug McTavish a Bernard Hender yn y digwyddiad yn Llanrwst

Mae peiriannydd wedi dweud wrth gwest i farwolaeth dau ddyn mewn tân yn Llanrwst yn 2014 nad yw'n anochel fod y fflamau wedi dechrau mewn sychwr dillad.

Ond wrth roi tystiolaeth, dywedodd Clifford Christie, peiriannydd gafodd ei alw gan gwmni Whirlpool i archwilio'r peiriant yn y fflat ar Sgwâr Ancaster, na allai ddiystyru'r posibilrwydd yn llwyr.

Cafodd Doug McTavish, 39 oed, a Bernard Hender, 19 oed, eu lladd yn y tân ym mis Hydref 2014.

Llwyddodd trydydd dyn, Garry Lloyd Jones i ddianc o'r adeilad.

Ar ail ddiwrnod y cwest, dywedodd Mr Christie fod y sychwr wedi ei ddifrodi'n sylweddol yn y tân, ond bod rhai o'r cydrannau'n gyfan.

Wedi iddo archwilio'r peiriant, dywedodd ei fod yn sicr nad yr amserydd na'r motor oedd wedi dechrau'r tân, ac nad oedd llwch wedi cronni yn y peiriant - sy'n achos cyffredin pan fo sychwyr yn mynd ar dân.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd Doug McTavish, Bernard Hender a Garry Lloyd Jones yn rhannu fflat ar Sgwâr Ancaster yn Llanrwst

Serch hynny, doedd y botwm i ddechrau'r peiriant ddim wedi goroesi'r tan, ac er nad oedd yna dystiolaeth ddigamsyniol mai yno y dechreuodd y tân, fedrai Mr Christie ddim â diystyru'r posibilrwydd.

Dywedodd ei fod o'r farn bod y tân wedi dechrau yn yr ystafell lle'r oedd y sychwr yn cael ei gadw, a'i bod yn bosib bod nam ar haearn smwddio oedd yn cael ei gadw yn yr un ystafell.

Ychwanegodd ei bod yn bosib fod Mr Lloyd Jones, yn ei dystiolaeth ddydd Mawrth, wedi camgymryd, pan ddywedodd fod yr haearn wedi ei ddiffodd.

Er bod gan haearnau declynnau i'w hatal rhag gorboethi, dywedodd na ellir diystyru'r posibilrwydd hwnnw chwaith.

Mae'r cwest yn parhau.