Trefn budd-dal newydd: Mwy yn dibynnu ar fanciau bwyd
- Cyhoeddwyd
Mae mwy o bobl yng Nghymru yn ddibynnol ar fanciau bwyd wedi i'r drefn newydd o hawlio budd-dal ddod i rym, yn ôl ffigyrau newydd gan Ymddiriedolaeth Trussell.
Mae ofnau y bydd y nifer yn codi eto wrth i'r drefn newydd gael ei gweithredu'n llawn.
Hyd yma yng Nghymru dim ond gweithredu yn rhannol y mae'r Credyd Cynhwysol. Mae'r newid ar hyn o bryd ond yn cael effaith ar bobl sengl.
Y llynedd fe gafodd 95,000 o bobl yng Nghymru becynnau brys gan y banc bwyd - bron i 10,000 yn fwy na'r flwyddyn flaenorol.
Dywedodd llefarydd ar ran yr ymddiriedolaeth bod "lle i gredu bod trosglwyddo o un system i'r llall yn gyfrifol am ran helaeth o'r cynnydd".
Credyd Cynhwysol
Ers dechrau mis Ebrill mae'r Credyd Cynhwysol wedi bod yn gweithredu'n llawn yn Sir y Fflint.
Mae hynny'n golygu fod pobl sengl, cyplau a theuluoedd yn hawlio budd-dal drwy'r drefn newydd.
Gobaith llywodraeth San Steffan yw y bydd y Credyd Cynhwysol yn gweithredu'n llawn yn Sir Torfaen yn ystod yr wythnosau nesaf cyn ymestyn i weddill Cymru.
Dywedodd Ymddiriedolaeth Trussell y gallai hynny arwain at fwy o ddibyniaeth ar fanciau bwyd.
Yn Lloegr mae llawer iawn o alw wedi bod ar y banciau bwyd mewn ardaloedd sy'n gweithredu'r Credyd Cynhwysol yn llawn.
Roedd cynnydd o 16.85% y llynedd yn nifer y bobl hawliodd becyn brys tri diwrnod gan y banc bwyd.
Wrth gyflwyno Credyd Cynhwysol yn 2010, dywedodd yr Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau, Iain Duncan Smith, mai'r nod oedd symleiddio'r broses o hawlio budd-daliadau.
Roedd y drefn newydd hefyd fod i wneud gweithio yn fwy atyniadol i bobl gan y byddai'n talu mwy na budd-daliadau.
Galw am newid 'didrafferth'
Dywedodd cyfarwyddwr banciau bwyd Ymddiriedolaeth Trussell, Adrian Curtis: "Mewn llefydd lle mae'r Credyd Cynhwysol llawn mewn grym, mae'r cynnydd yn y bobol sy'n galw am wasanaeth y banc bwyd yn fawr.
"Mae effaith benodol i'w weld ar bobl sy'n gwneud gwaith tymhorol, ac nid yw'r cymhellion gwaith sy'n cael eu cyflwyno gan y Credyd Cynhwysol yn addas i bawb.
"Rydym yn gwerthfawrogi unrhyw symudiad i symleiddio'r drefn o hawlio budd-dal ond yn amlwg mae problemau yn gallu digwydd.
"Rydyn ni felly yn galw ar i'r llywodraeth sicrhau bod symud o un drefn hawlio budd-dal i'r llall yn digwydd yn ddidrafferth.
"Fel arfer y banciau bwyd sy'n cael eu taro gyntaf os nad yw'r newid o un drefn i'r llall yn digwydd yn hwylus."
Ymateb San Steffan
Wrth ymateb dywedodd llefarydd ar ran yr Adran Gwaith a Phensiynau: "Mae'r rhesymau pam mae bobl yn ddibynnol ar fanciau bwyd yn gymhleth a does na ddim un rheswm penodol i gyfrif am y cynnydd.
"Cael gwaith yw'r llwybr allan o dlodi a bellach mae mwy o bobl yn gweithio yng Nghymru. Mae Credyd Cynhwysol yn galluogi pobl i gael gwaith yn gynt ac i aros mewn swydd am fwy o amser.
"Mae Credyd Cynhwysol wedi'i gynllunio i roi'r syniad i bobl am fyd gwaith go iawn ac i roi iddynt reolaeth dros eu cyllid.
Mae'r mwyafrif sy'n hawlio Credyd Cynhwysol yn rheoli eu harian eu hunain ac ry'n yn gweithio'n agos gydag awdurdodau lleol i gefnogi y rhai sydd angen mwy o help."