Grant o £5m i gefnogi cynllun archif ddarlledu
- Cyhoeddwyd
Mae prosiect gwerth £9m i greu archif ddarlledu genedlaethol wedi cael nawdd loteri gwerth £5m.
Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru a BBC Cymru yn mynd i ddatblygu cynlluniau i alluogi'r cyhoedd i gael mynediad i archif y darlledwr.
Bydd hyn ar gael mewn pedwar o ganolfannau digidol yn Aberystwyth, Wrecsam, Caerfyrddin a Chaerdydd.
Dywedodd Llywydd y Llyfrgell Genedlaethol, Rhodri Glyn Thomas, y byddai'n "gwarchod ffynhonnell hanfodol o dreftadaeth ein gwlad".
Mae'r archif o tua 160,000 o recordiadau, sy'n dyddio'n ôl i'r 1930au, ac yn cynnwys darllediadau o'r yr Ail Ryfel Byd, trychineb Aberfan, a streic y glowyr.
Bydd tua 1,000 o glipiau o raglen hefyd yn cael eu gwneud ar gael i bobl wylio ar-lein.
Mae Cronfa Dreftadaeth y Loteri wedi rhoi arian fel y gall y llyfrgell a'r BBC Cymru gynhyrchu cynllun busnes manwl erbyn mis Mawrth i gael eu hystyried am y grant o £4.9m.
Fe ddaw'r cyhoeddiad wrth i BBC Cymru baratoi i symud i adeilad newydd yng nghanol dinas Caerdydd yn 2019.
Mae Llyfrgell Genedlaethol hefyd yn gweithio gyda'r gorfforaeth i storio recordiadau gwreiddiol yn eu hadeilad yn Aberystwyth.
Dywedodd Rhodri Talfan Davies, Cyfarwyddwr BBC Cymru, y byddai'r "bartneriaeth di-gynsail yma" yn golygu fod "yr adnoddau anhygoel hyn ar gael i'r cyhoedd yng Nghymru gyfan".