Ffigyrau: Canlyniadau addysg plant mewn gofal yn gwella
- Cyhoeddwyd
Mae canlyniadau addysgol plant sydd mewn gofal wedi gwella rhwng 2015 a 2016, yn ôl ffigyrau newydd.
Yn 2016 llwyddodd 23% o blant mewn gofal i gael cyfystyr â pum TGAU o radd A* i C mewn Cymraeg, Saesneg a Mathemateg, cynnydd o chwe phwynt canran ers y llynedd.
Ddydd Mercher bydd yr Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams, yn amlinellu cynlluniau i wella cyrhaeddiad addysgol plant mewn gofal a gwneud yn siŵr bod ganddynt yr un cyfleoedd â'u cyfoedion.
Yn ddiweddar cyhoeddodd y llywodraeth y bydd y Grant Datblygu Disgyblion yn cael ei ehangu i gynnwys plant tair oed sy'n derbyn gofal.
Cynnydd
Mae adroddiad yn dangos y cynnydd o chwe phwynt canran mewn canlyniadau addysgol i blant mewn gofal rhwng 2015 a 2016.
Mae'r ffigwr ar gyfer eleni bron i ddwbl y gyfradd yn 2011.
Ond mae'n ychwanegu bod y bwlch rhwng cyrhaeddiad pobl mewn gofal a phobl ifanc eraill yn "annerbyniol".
Mae Ms Williams wedi cyhoeddi adnodd arlein i rannu gwybodaeth sy'n canolbwyntio ar blant mewn gofal, gyda'r bwriad o wella canlyniadau addysgiadol.
Mae hi hefyd wedi ymrwymo i:
Edrych ar yr hyfforddiant sydd ar gael i ysgolion a cholegau addysg bellach sy'n gyfrifol am blant mewn gofal,
Sicrhau bod awdurdodau lleol yn adolygu rolau gweithwyr allweddol sy'n gyfrifol am blant mewn gofal;
Cydweithio â'r trydydd sector i ystyried ffyrdd gwell o gefnogi plant y mae'n aml yn anodd ennyn eu diddordeb mewn addysg.
Yn rhan o'r cynllun mae awdurdodau lleol ac ysgolion wedi eu hannog i rannu arferion da, gan gynnwys Ysgol Gynradd Eglwys Crist yn Y Rhyl.
Dysgu sgiliau
Dywedodd Debbie Foster, sy'n cynghori ar faterion lles yn yr ysgol, bod "siarad a rhannu profiadau yn bwysig".
"Bob bore byddwn yn cael sesiwn i annog pobl i siarad ac i ddysgu am sgiliau cymdeithasol.
"Mae gennym hefyd ystafelloedd arbennig yn yr ysgol, ystafell y blodyn haul a den dywyll, lle gall plant fynd i ymlacio.
"Yn aml ar ddydd Gwener bydd criw o'r ysgol yn mynd i farchogaeth i Brestatyn - mae gweithgaredd o'r fath yn helpu plant sy'n wynebu amgylchiadau anodd.
"Ry'n yn gobeithio bod plant mewn ardaloedd eraill yn gallu elwa ar ein profiad ni."
Dywedodd Ms Williams ei fod yn bwysig bod "pob plentyn yn gwneud yn dda ac yn cyflawni eu potensial, waeth beth fo'u cefndir".
"Yn aml, mae plant sy'n derbyn gofal yn dod o gefndir o argyfwng teuluol neu deulu'n chwalu," meddai.
"Er na allwn ni newid eu profiadau personol, byddwn ni'n parhau i'w cefnogi drwy eu haddysg a'u paratoi ar gyfer bywyd fel oedolyn.
"Mae ymchwil yn dangos yn rhy aml o lawer bod disgwyliadau pobl o ran y bobl ifanc hyn yn gostwng dim ond am eu bod yn 'derbyn gofal'."