Cyfradd diweithdra Cymru'n uwch na'r DU dros dri mis

  • Cyhoeddwyd
Gwaith

Mae ffigyrau newydd yn dangos fod cyfradd diweithdra yng Nghymru wedi parhau'n uwch na chyfradd y DU am y tri mis diwethaf, er ei fod yn is na chyfartaledd y DU dros y 12 mis diwethaf.

Dywedodd y Swyddfa Ystadegau Cenedlaethol fod 4.8% o bobl rhwng 16 a 64 oed yn ddiwaith yng Nghymru am y tri mis cyntaf o'r flwyddyn eleni, o gymharu gyda 4.6% ar draws y DU.

Roedd 25,000 o bobl yn fwy mewn gwaith dros gyfnod y tri mis o gymharu gyda'r tri mis rhwng Hydref a Rhagfyr y llynedd, ond roedd 6,000 yn fwy o bobl yn ddiwaith.

Mae hyn achos fod 27,000 o bobl yn llai oedd yn cael eu hystyried fel bod yn weithgar yn economaidd, a hynny er engraifft achos eu bod yn wael, yn fyfyrwyr neu'n gofalu am rywun arall.