Cwestiwn ac ateb: Gofal cymdeithasol a Chymru
- Cyhoeddwyd
Mae disgwyl y bydd nifer y bobl hŷn sy'n byw â chyflyrau cronig neu anableddau yn cynyddu'n sylweddol yn ystod y blynyddoedd nesaf.
Erbyn 2025, fe fydd tua 2.8 miliwn o bobl dros 65 oed angen gofal yng Nghymru a Lloegr - cynnydd o 25% o'i gymharu â 2015.
Yn ôl astudiaeth ddiweddar gan yr Health Foundation, fe fydd y galw am ofal cymdeithasol yng Nghymru yn cynyddu 4.1% pob blwyddyn yn ystod y 15 mlynedd nesaf.
Mae gofal cymdeithasol yn cwmpasu ystod eang o ofal, o gymorth yn y cartref i ofal parhaol mewn cartrefi gofal neu nyrsio.
Ydy polisïau San Steffan yn berthnasol?
Oherwydd bod hyn yn faes sydd wedi ei ddatganoli - mae polisïau a threfniadau gwahanol yn bodoli yng Nghymru, Lloegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Ond yn wahanol i ofal iechyd sydd am ddim, mae costau gofal cymdeithasol yn dibynnu ar allu unigolion i dalu.
Mae cynghorau Cymru - sy'n gyfrifol am ddarparu gwasanaethau cymdeithasol - yn gwario un rhan o dair o'u cyllidebau gwasanaethau cymdeithasol ar ofal i'r henoed.
O ystyried bod hwn yn faes sydd wedi'i ddatganoli, ydy polisïau Llywodraeth y DU yn berthnasol?
Mae Llywodraethau yng Nghymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon yn gyfrifol am eu polisïau ei hunain, ond dyw hynny ddim o reidrwydd yn golygu fod yr hyn sy'n digwydd yn San Steffan yn amherthnasol.
Petai'r llywodraeth yn Llundain yn dewis lleihau cyfraniad y wladwriaeth i ofal cymdeithasol - drwy ofyn i unigolion gyfrannu mwy o'u hincwm tuag at dalu am ofal - fe allai hynny olygu gostyngiad yn yr arian sy'n cael ei glustnodi o'r Trysorlys i Gymru drwy fformiwla Barnett.
Beth yw'r sefyllfa yng Nghymru?
Gofal yn y cartref
£70 yr wythnos yw'r mwyafrif sy'n rhaid i unrhyw un dalu am ofal yn eu cartrefi eu hunain.
Ond fe allai rhywun sydd â llai na £24,000 o gynilion (ddim yn cynnwys gwerth eu tŷ) fod yn gymwys i gael help ychwanegol i dalu'r costau.
Cyfrifoldeb cynghorau yw asesu a yw anghenion gofal rhywun yn ddigon difrifol i fod yn gymwys am gymorth ariannol, ond ers 2016 mae gan bawb yr hawl i gael eu hanghenion wedi'u hasesu'n ffurfiol.
Gofal mewn cartrefi gofal
Mae unigolion sydd ag asedau dros £30,000 (yn cynnwys gwerth eu cartref) yn talu holl gostau gofal.
Ond os yw asedau rhywun yn llai na hyn fe allen nhw fod yn gymwys i gael cymorth ariannol.
Mae lefel y cymorth wedyn yn dibynnu ar incwm unigolyn, e.e. yr hyn sy'n dod o bensiynau neu gymorthdaliadau.
Mae Llywodraeth Cymru am gynyddu'r trothwy i £50,000 erbyn diwedd tymor y Cynulliad yn 2021.
Mae'r Gwasanaeth Iechyd yn gyfrifol am dalu costau gofal nyrsio os yw rhywun angen hynny oherwydd salwch.
Beth yw'r sefyllfa yn Lloegr?
Ar hyn o bryd mae unrhyw un sydd ag asedau dros £23,250 yn talu'n llawn am eu gofal, boed hynny mewn cartref gofal neu yn eu cartrefi eu hun.
Roedd Llywodraeth y DU wedi bwriadu cynyddu'r trothwy i £72,000 ym mis Ebrill 2020, ond mae maniffesto'r blaid Geidwadol yn cynnig cynyddu'r trothwy i £100,000.
Ond yn allweddol o dan y cynnig newydd, byddai gwerth y tŷ yn cael ei ystyried fel ased am y tro cyntaf yn achos rhai sy'n derbyn gofal yn eu cartrefi eu hun.
Er hynny, dywedodd y Ceidwadwyr na fyddai unrhyw un yn gorfod gwerthu eu tai i dalu am ofal yn ystod eu bywyd, ond byddai angen talu'r costau o'u hystâd ar ôl marw.
Yn dilyn beirniadaeth, cyhoeddodd Theresa May y byddai uchafswm absoliwt yn cael ei osod ar faint fyddai unrhyw unigolyn yn gorfod talu am eu gofal - er nad oedd yr addewid hwnnw yn rhan o'r maniffesto.
Beth am Yr Alban?
Mae unrhyw un sydd dros 65 oed yn gymwys i dderbyn gofal personol am ddim os ydyn nhw yn cael eu hystyried i fod angen cymorth. Cynghorau sy'n gyfrifol am osod y meini prawf.
Mae gofal personol yn cynnwys cymorth i olchi, gwisgo a pharatoi bwyd, ond nid yw'n cynnwys costau prynu bwyd neu siopa.
Y gwasanaeth iechyd sy'n talu os oes rhywun angen gofal gan nyrs.
Os yw unigolyn yn derbyn gofal mewn cartref gofal neu nyrsio gallan nhw dderbyn £171 yr wythnos yn gyfraniad tuag at ofal personol, a £78 yr wythnos tuag at ofal nyrsio.
Fe allan nhw gael cymorth ariannol ychwanegol os yw eu hasedau (yn cynnwys gwerth eu cartref) yn llai na £26,250 , bydd hyn yn codi i £26,500 ym Mehefin 2017.
Mae hawl gan bawb gadw £16,250 o asedau (sy'n cynyddu i £16,500 ym Mehefin eleni).
A Gogledd Iwerddon?
Mae'r system yng Ngogledd Iwerddon yn fwy integredig - gyda phum ymddiriedolaeth iechyd a gofal cymdeithasol yn gyfrifol am asesu anghenion pobl.
Mae'r mwyafrif o ofal yn y cartref am ddim i unigolion dros 75 oed, a'r ymddiriedolaeth leol syn penderfynu faint mae pobl sy'n iau na 75 yn gorfod talu.
Os yn cael gofal mewn cartref gofal neu nyrsio, mae'n rhaid i unigolion sydd ag asedau dros £23,250 dalu am hynny yn ei gyfanrwydd.
Gall unigolion ag asedau syn llai na'r trothwy dderbyn cymorth ariannol. Mae hawl gan bawb i gadw £14,250.