Patagonia: Y Gymraeg yn 'fwy diogel'
- Cyhoeddwyd
Mae Prosiect yr Iaith Gymraeg ym Mhatagonia yn dathlu 20 mlwyddiant eleni ac mae'r adroddiad diweddaraf yn dangos bod y prosiect yn mynd o nerth i nerth.
Mae'r adroddiad mwyaf diweddar yn dangos bod 1,270 o bobl yn dysgu Cymraeg yn y rhanbarth yn ystod 2016.
Mae hynny'n gynnydd o 4.1% o'r flwyddyn flaenorol, a'r nifer uchaf o bobl erioed ar gyfer y prosiect.
Dywedodd trefnwyr y prosiect bod y cynnydd wedi dod yn sgil datblygu addysg cyfrwng Cymraeg ymhellach. Mae'r adroddiad yn nodi cynnydd o 202% yn nifer y disgyblion cynradd sy'n dysgu Cymraeg a chynnydd o 145% yn nifer y plant yn eu harddegau sy'n dysgu'r iaith.
Yn ôl y trefnwyr mae'r ysgol cyfrwng Cymraeg a Sbaeneg newydd yn Nhrefelin - Ysgol y Cwm a agorodd ei drysau am y tro cyntaf ym Mawrth 2016 - yn golygu bod dyfodol y Gymraeg ym Mhatagonia yn fwy diogel.
Daeth 50 o blant oed meithrin i'r ysgol pan agorodd, ac mae gobaith o groesawu 150 o ddisgyblion i'r ysgol yn y pen draw.
Mae Ysgol Gymraeg y Gaiman hefyd wedi gweld twf yn sgil cael adeilad newydd, ac mae'r prosiect hefyd wedi dathlu deng mlynedd ers sefydlu Ysgol yr Hendre yn Nhrelew.
Jenny Scott yw cyfarwyddwr British Council Cymru, sy'n rheoli'r prosiect, a dywedodd: "Mae'r twf parhaus yn nifer y bobl sy'n dysgu Cymraeg ym Mhatagonia yn dyst i'r gwaith caled sydd wedi bod yn rhan o Brosiect yr Iaith Gymraeg dros yr ugain mlynedd diwethaf.
"Rydyn ni'n edrych ymlaen i weld twf pellach yn sgil datblygiad addysg cyfrwng Cymraeg yn y rhanbarth."
Dywedodd Rhisiart Arwel, monitor academaidd y prosiect: "Mae 2017 yn flwyddyn nodedig yn hanes Cynllun yr Iaith Gymraeg. Dyma'r flwyddyn mae'r Cynllun yn dathlu ei ben-blwydd yn ugain mlwydd oed.
"Ychydig a wyddai'r rhan fwyaf ohonom 'nôl yn 1997 cymaint byddai llwyddiant y Cynllun unigryw yma, sy'n cael ei ariannu ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru, British Council Cymru a Chymdeithas Cymru Ariannin.
"'Nôl yn 1997, dim ond 573 o ddysgwyr oedd yn mynychu dosbarthiadau Cymraeg. Bellach, oherwydd brwdfrydedd ac ymroddiad yr holl diwtoriaid a staff y Cynllun mae'r ffigwr hwnnw wedi codi i 1,270 yn 2017. Dyma'r ffigwr uchaf erioed yn hanes y Cynllun, ac yn gynnydd o 121% ers y dechrau.
"Mae hon yn stori o lwyddiant mawr."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Ionawr 2017
- Cyhoeddwyd24 Awst 2016
- Cyhoeddwyd9 Mawrth 2016