Cefnogwr Jeremy Corbyn yn herio'r beirniaid
- Cyhoeddwyd
Mae un o gefnogwyr mwyaf blaenllaw Jeremy Corbyn yng Nghymru wedi beirniadu agweddau rhai o aelodau mwyaf dylanwadol Llafur tuag at yr arweinydd.
Yn ôl Darren Williams, sy'n aelod o bwyllgor gwaith cenedlaethol Llafur, mae angen cwestiynu ffyddlondeb a chrebwyll rhai pobl Llafur.
Dywedodd Mr Williams: "Mae'n iawn fod Jeremy yn ymestyn ac yn croesawu i'w fainc flaen rhai o'r bobl a fu'n feirniadol ohono.
"Ond rwy'n meddwl i'r bobl a fu'n gyson feirniadol, ac mewn ffordd bersonol oedd ar adegau yn anodd i'r blaid, rwy'n meddwl bod angen cwestiynu ffyddlondeb y bobl yma."
"Petawn i yn Mr Corbyn, mewn un neu ddau o achosion, bydden i yn dweud 'diolch ond dim diolch'."
Yn ôl Mr Williams roedd yna ddiffyg uchelgais hefyd gan Lafur Cymru yn ystod yr ymgyrch:"Roedd golwg besimistaidd o'r cychwyn o obeithion Llafur, ac roedd hynny yn dod o gyfeiriad rhai aelodau blaenllaw o'r blaid.
'Hawdd bod yn ddoeth' wedyn
"Fe gawson ni ganlyniad gwych ond fe allai'r blaid fod wedi ennill rhagor o seddi eto petai'r blaid fod wedi bod yn fwy uchelgeisiol"
Fe gipiodd Llafur seddi Gŵyr, Dyffryn Clwyd a Gogledd Caerdydd o'r Ceidwadwyr, ac roedd y blaid yn agos at ennill yn Arfon, Preseli Penfro ac Aberconwy hefyd.
Dywedodd llefarydd ar ran Llafur Cymru ei fod yn "hawdd bod yn ddoeth ar ôl y digwyddiad."
"Ar ddechrau'r ymgyrch roedden ni 10 pwynt ar ei hôl hi yn yr arolygon, a oedd yn rhagweld Llafur yn colli 10 sedd. Erbyn y diwedd roedden ni 11 pwynt ar y blaen," meddai'r llefarydd.
"Nid hud a lledrith oedd hyn - fe ddigwyddodd gan fod Carwyn Jones yn arwain ymgyrch egniol ar y cyd ag ymgyrch ar draws Prydain gan Jeremy Corbyn a oedd yn cydio yn nychymyg pobl."