Budd-dal Credyd Cynhwysol 'yn methu', medd elusen

  • Cyhoeddwyd
Arian

Mae'r modd o dalu budd-daliadau drwy Gredyd Cynhwysol yn methu, yn ôl Cyngor ar Bopeth.

Mae'r elusen yn dweud fod y system yn gwthio nifer i ddyled ac yn ei gwneud hi'n anodd i bobl ddal dau ben llinyn ynghyd.

Mae Cyngor ar Bopeth wedi bod yn edrych ar y drefn newydd o hawlio budd-dal wrth i gynllun Credyd Cynhwysol gael ei gyflwyno mewn rhannau o Brydain, gyda Sir y Fflint yn eu plith.

Mae'r Adran Gwaith a Phensiynau yn dweud bod y mwyafrif yn fodlon gyda'r system newydd.

Ond mae'r elusen yn rhybuddio Llywodraeth y DU bod angen arafu'r broses ac edrych yn fanylach ar y problemau sy'n codi.

Beth yw Credyd Cynhwysol?

Fe ddechreuodd y broses o ddiwygio'r system fudd-daliadau ddwy flynedd yn ôl.

Mae'n broses sydd wedi mynd gam wrth gam - yn dechrau gyda budd-daliadau syml gan ychwanegu mwy o elfennau'n raddol.

Yn y pen draw bydd chwe budd-dal yn dod o dan ymbarel Credyd Cynhwysol.

Mae 'na 40 o ardaloedd ym Mhrydain yn rhan o'r cynllun peilot - Sir y Fflint yw'r unig ardal yng Nghymru.

Fe ddechreuodd yno ym mis Ebrill a bydd Torfaen yn dod yn rhan o'r cynllun fis yma.

'Annerbyniol'

Mae Cyngor ar Bopeth yn dweud bod problemau gyda'r dulliau darparu gwybodaeth, bod gormod o bobl yn ei gweld yn broses gymhleth ac yn aros yn hir am daliadau.

Roedd eraill wedi dweud eu bod yn cael anawsterau gyda'r cais, oedd yn y pendraw yn golygu eu bod yn canolbwyntio llai ar ymgeisio am swyddi neu gynyddu eu horiau gwaith.

"Mae llawer o bobl yn gorfod aros chwe wythnos cyn eu bod yn cael unrhyw geiniog, a rhai'n gorfod disgwyl 10 wythnos," meddai Alun Thomas o Gyngor ar Bopeth.

"Mae hynny'n golygu bod pobl ddim yn gallu talu rhent a biliau neu'n gorfod mynd at fanciau bwyd, ac mae hynny'n annerbyniol."

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y Credyd Cynhwysol ei gyflwyno yn 2010 gan yr Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau, Iain Duncan Smith

Mae Cyngor ar Bopeth wedi cefnogi 1,500 o bobl yng Nghymru yn ystod y flwyddyn ddiwethaf gyda materion yn ymwneud â Chredyd Cynhwysol.

Roedd chwarter o'r rheiny angen cymorth gyda dyledion.

'Achosion prin'

Mae 22,000 o bobl yn derbyn budd-dal Credyd Cynhwysol yng Nghymru ar hyn o bryd.

Ond erbyn iddo gael ei gyflwyno ledled y DU yn 2022 mae'r elusen yn rhagweld bydd dros 400,000 o gartrefi yng Nghymru yn derbyn y budd-dal.

Mae'r Adran Gwaith a Phensiynau yn dweud bod y mwyafrif sy'n hawlio'r budd-dal Credyd Cynhwysol yn fodlon gyda'r system.

Yn yr "achosion prin" pan mae problemau, maen nhw'n dweud y byddan nhw'n gweithio gydag awdurdodau lleol a landlordiaid i gefnogi pobl.