Amserlen Brexit Llywodraeth y DU yn 'chwerthinllyd'
- Cyhoeddwyd

Dywedodd Glyn Roberts mai "ychydig iawn sydd wedi digwydd" ers tanio Erthygl 50
Mae llywydd un o brif undebau amaeth Cymru wedi dweud bod amserlen Llywodraeth Prydain ar adael yr Undeb Ewropeaidd, a'r effaith fydd hynny yn ei gael ar y diwydiant, yn "chwerthinllyd".
Roedd cadeirydd Undeb Amaethwyr Cymru, Glyn Roberts, yn annerch y wasg ar faes y Sioe Frenhinol brynhawn Sul.
Dywedodd bod araith ddiweddar yr Ysgrifennydd Amaeth, Michael Gove, lle'r oedd yn awgrymu bod dyfodol polisi amaethyddiaeth yn ddewis rhwng cefnogi cynhyrchu bwyd a gwarchod yr amgylchedd, yn "siomedig".
Ychwanegodd ei bod hi'n "chwerthinllyd bod y llywodraeth yn credu bod modd sicrhau ffordd allan o'r Undeb, a dyfodol llewyrchus o ganlyniad i hynny, i gyd o fewn dwy flynedd o gyhoeddi'r ddeddf".
"Mae 'na bedwar mis wedi bod ers i'r Prif Weinidog, Theresa May, lofnodi Erthygl 50 ac ychydig iawn sydd wedi digwydd ers hynny," meddai Mr Roberts.

Bydd Michael Gove a Lesley Griffiths yn cwrdd ar faes y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd fore Llun
Mae'r ddau undeb amaeth yng Nghymru wedi galw ar lywodraethau Prydain a Chymru i egluro beth yn union fydd y polisïau amaeth unwaith y bydd yn DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd.
Wrth siarad â'r wasg brynhawn Sul dywedodd cadeirydd Undeb yr Amaethwyr, Stephen James, ei fod yn gobeithio y bydd polisïau yn y dyfodol yn cael eu creu a'u gweithredu gyda'r ffermwr gweithgar mewn meddwl.
"Mewn byd delfrydol, fe fydden ni'n hoffi gweld y pedair llywodraeth ym Mhrydain yn gweithio gyda'i gilydd i gytuno ar un polisi a fframwaith ariannu er mwyn sicrhau nad oes 'na rwystrau mewnol o fewn Prydain ond bod 'na ddigon o hyblygrwydd gan bob gwlad i weithredu polisi sy'n addas ar gyfer yr arferion ffermio yn y wlad honno," meddai.

Dywedodd Lesley Griffiths y gallai'r Mesur Diddymu "droi'r cloc yn ôl 20 mlynedd"
Ar faes y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd fore Llun bydd Ysgrifennydd Amaeth Llywodraeth Prydain, Michael Gove, ac Ysgrifennydd Materion Cefn Gwlad Cymru, Lesley Griffiths, yn cwrdd am y tro cyntaf wyneb i wyneb.
Brynhawn Sul, dywedodd Ms Griffiths y bydd hi'n pwyso ar Mr Gove i ddeall bod gan Gymru ei anghenion penodol ei hun.
"Mae 'na botensial gwirioneddol y bydd y ddeddf yma yn troi'r cloc yn ôl 20 mlynedd," meddai Ms Griffiths.
"Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn ceisio cael gwarantau gan Lywodraeth Prydain ers i'r ddeddf i adael yr Undeb Ewropeaidd gael ei chyhoeddi, ond nid ydyn ni wedi derbyn unrhyw beth ganddyn nhw."