Teyrngedau i James Corfield aeth ar goll o'r Sioe Frenhinol
- Cyhoeddwyd
Mae teyrngedau wedi cael eu rhoi i James Corfield, y dyn ifanc a ddiflannodd yn ystod y Sioe Amaethyddol Frenhinol wythnos ddiwethaf.
Brynhawn Sul, cafwyd cadarnhad gan Dîm Achub Mynydd Aberhonddu fod corff wedi'i ddarganfod mewn pwll dwfn yn Afon Gwy yn Llanfair-ym-Muallt.
Wrth gyhoeddi'r neges ar y cyfryngau cymdeithasol brynhawn Sul dywedodd y tîm eu bod yn meddwl ac yn gweddïo am deulu a ffrindiau James Corfield.
Yn gynharach ddydd Sul dywedodd Heddlu Dyfed Powys fod corff wedi cael ei ddarganfod yn Llanfair-ym-Muallt ond nad oedd wedi ei adnabod yn swyddogol.
'Wedi tristáu'
Doedd neb wedi gweld Mr Corfield ers iddo adael tafarn Y Ceffyl Gwyn yn Llanfair-ym-Muallt yn ystod oriau mân fore Mawrth, Gorffennaf 25.
Gydol wythnos y Sioe Fawr bu plismyn, timau achub a gwirfoddolwyr yn chwilio am y gwr ifanc oedd yn hanu o Drefaldwyn.
Dywed yr heddlu fod ei deulu yn cael cefnogaeth swyddogion arbennig ers cael gwybod am y darganfyddiad.
Fore Llun, fe gyhoeddodd Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru a Mudiad Ffermwyr Ifanc Cymru ddatganiad ar y cyd, yn dweud eu bod "wedi tristáu wrth glywed am y newyddion bod corff wedi ei ddarganfod wrth chwilio am James Corfield".
"Byddwn yn parhau i gynorthwyo'r gwasanaethau argyfwng ac i gynnig cefnogaeth i'r teulu trwy'r amser anodd yma."
'Cyfeillgar, cymwynasgar a gweithgar'
Wrth ymateb dywedodd AC Trefaldwyn Russell George fod "dod o hyd i'r corff yn newyddion trist ofnadwy".
Ychwanegodd: "Mae James a'i deulu yn adnabyddus yn yr ardal ac mae'n meddyliau gyda nhw yn ystod yr amser anodd hwn."
Roedd James Corfield yn chwaraewr criced amryddawn i glwb Trefaldwyn. Mewn teyrnged iddo, dywedodd y clwb fod James Corfield "wedi cael tymor eithriadol y llynedd, a welodd e'n cipio'r cwpanau am fatio a bowlio".
"Yn 2016 fe enillodd e hefyd y wobr am Chwaraewyr Ifanc y Flwyddyn yng ail gynghrair Sir Amwythig."
Ychwanegodd y datganiad bod "James yn ddyn cyfeillgar, cymwynasgar a gweithgar", a bod y newyddion "wedi effeithio'n fawr arnon ni".
Ddydd Sadwrn ymgasglodd cannoedd o bobl yn Nhrefaldwyn i roi cefnogaeth i deulu James Corfield.
Ychwanegodd yr heddlu eu bod am ddiolch i'r cyhoedd am y gefnogaeth gydol yr wythnos.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Gorffennaf 2017