Dangos cefnogaeth i deulu a ffrindiau James Corfield
- Cyhoeddwyd

Mae James Corfield yn gricedwr brwd ac yn chwarae i dîm Trefaldwyn
Bu cannoedd o bobl yn dangos eu cefnogaeth i deulu a ffrindiau James Corfield yn Nhrefaldwyn fore Sadwrn.
Does neb wedi gweld y gŵr 19 oed ers iddo adael tafarn y Ceffyl Gwyn yn Llanfair-ym-Muallt yn ystod oriau mân fore Mawrth.
Dywedodd David Thomas, ysgrifennydd clwb criced Trefaldwyn, lle mae Mr Corfield yn chwaraewr brwd: "Roedd hi'n wych cael y gefnogaeth. Ry'n yn trio aros yn positif."
Gwnaeth y rhai a oedd wedi ymgynnull glapio i ddangos eu cefnogaeth.
Yn y cyfamser parhau mae'r chwilio. Ddydd Sadwrn bu caiac tîm achub mynydd lleol yn chwilio ynghyd â hofrenydd yr heddlu.
Yn ogystal mae drôn Gwasanaeth Tân ac Achub y Canolbarth a'r Gorllewin wedi bod yn chwilio ar hyd afon Gwy.

Torf wedi ymgasglu yn Nhrefaldwyn i ddangos cefnogaeth i deulu James Corfield
Roedd Mr Corfield fod i gyfarfod ei deulu ar faes y Sioe Amaethyddol lle roedd e'n gwersylla gyda ffrindiau ond ddaeth e ddim i'w cyfarfod.
Ddydd Iau dywedodd ei fam Louise Corfield fod ei deulu yn ysu i gael gwybodaeth amdano.
Ers diwedd y Sioe Amaethyddol nos Iau mae swyddogion wedi bod yn chwilio cae'r Sioe a phentre yr ieuenctid.
Ddydd Iau aeth oddeutu 200 o wirfoddolwyr gyda thimau achub mynydd, plismyn, y gwasanaeth tân a swyddogion o'r Clwb Ffermwyr Ifanc i chwilio am Mr Corfield.
Mae Mr Corfield yn cael ei ddisgrifio fel dyn tenau o daldra 6' 2" gyda gwallt brown byr. Adeg ei ddiflaniad roedd e'n gwisgo crys glas Abercrombie & Fitch a jîns.

Dywedodd Louise Corfield nad oedd diflaniad James yn "gydnaws â'i gymeriad"

Mae posteri wedi cael eu rhoi o gwmpas yr ardal i geisio dod o hyd i James Corfield