Lle oeddwn i: Heini Gruffudd a Gêm y Steddfod

  • Cyhoeddwyd
Clawr Gêm SteddfodFfynhonnell y llun, Angharad Jones/Gêm Steddfod, Facebook

Bron i 40 mlynedd gwelodd Heini Gruffudd fwlch yn y farchnad a dyfeisio gêm fwrdd Gymraeg, Gêm y Steddfod, a gyhoeddwyd gan wasg Y Lolfa yn wreiddiol ar ddiwedd y saithdegau.

Gyda lluniau eiconig Elwyn Ioan roedd hi'n anfon ei chwaraewyr ar ras o amgylch maes yr Eisteddfod Genedlaethol gydag ambell dro trwstan, fel ceisio osgoi cyfaill a gorfod methu tro, yn cael ei achosi gan gardiau Ffwdan.

Bu Heini Gruffudd yn egluro i Cymru Fyw sut daeth y gêm i fod.

Yn 1979 ro'n i'n gyfieithydd ac yn athro yn Ysgol Ystalyfera, Abertawe, a thri o blant gyda ni rhwng pedair ac wyth oed.

Wrth gwrs bydde dyn yn chwarae pob math o gemau bwrdd 'da nhw ond y drwg am gemau bwrdd fel Monopoli ac yn y blaen oedd fod y cyfarwyddiadau a'r pethau roeddech chi'n gorfod eu gwneud ar y cardiau yn Saesneg.

'Dwi ddim yn meddwl ar y pryd fod unrhyw un gêm fwrdd Gymraeg ar gael. Felly roedd bwlch amlwg.

Disgrifiad o’r llun,

Heini Gruffudd: "Mae'n gêm sy'n ail fyw sbort - neu boendod - cae Steddfod!"

'O'n i wedi gwneud cynnig ar sawl gêm. Mae un gêm 'da fi yn y drôr yn y tŷ - Cadeirio oedd enw'r gêm.

Mae hi'n llawn llinellau cynghanedd a mae dyn yn mynd o gwmpas yn casglu llinellau i ffurfio cywydd yn ystod y gêm. Mae 'na bwyntiau am bob llinell a'r person sydd â'r nifer mwyaf o bwyntiau yn ei linellau yn ystod y gêm sy'n cael ei gadeirio!

Mae ishe i fi fynd nôl at Y Lolfa i gael hwnna wedi ei wneud! Mae'n dal mewn amlen gen i.

Anhawster Y Lolfa wrth gwrs oedd y gost - cael darnau plastig a blwch wedi ei wneud yn benodol.

Felly ers hynny dwi ddim credu mod i wedi cael dimau am y peth ond y peth pwysig yw ei fod wedi cael ei wneud a bod y peth, trwy lwc, wedi bod yn eitha' poblogaidd.

Fi'n gweld pobl yn dal i'w chwarae ac erbyn hyn mae'n wyrion i yn ei chwarae nawr ac yn y man.

Ffynhonnell y llun, Angharad Jones/Gêm Steddfod, Facebook
Disgrifiad o’r llun,

Heini Gruffudd: "Mae 'osgoi cyfaill' wedi aros yn berthnasol am 40 mlynedd!"

Fe wnes i ddewis y Steddfod achos ei fod yn rhoi cyd-destun cwbl Gymreig na fyddai ar gael i neb arall.

Dwi'n meddwl mai hanner y gamp yw ei fod y trio adlewyrchu, mewn ffordd ddoniol, y profiad mae pawb yn ei gael ar faes y Steddfod - eisiau osgoi pobl a phethe fel 'ny!

Wi'n cofio pan oni'n fach fy hunan roedd na ryw gêm yn y tŷ o'r enw Europe ac roedd rhywun yn gallu mynd o gwmpas gwahanol drefi yn Ewrop ar ryw fath o faes mawr.

Oedd dyn yn gallu mynd o un dref i'r llall gyda ryw bedwar neu bump nod.

Felly fi'n meddwl fod y syniad o fynd i wahanol bebyll wedi dod o fan 'na, ond wedi ei gyfuno wedyn gyda'r syniad o gardiau siawns sydd yn Monopoli, sef y cardiau Ffwdan.

Ac wrth gwrs un peth sy'n adlewyrchu profiad rhywun go iawn ar faes y Steddfod yw'r ffaith fod y tŷ bach yn y gornel bella'! Mae cael cerdyn Ffwdan sy'n dweud bod rhaid ichi fynd i'r tŷ bach cyn gadael y maes yn adlewyrchu yr hyn sy'n digwydd i lawer o famau a phlant!

Ffynhonnell y llun, Angharad Jones/Gêm Steddfod, Facebook

Os ydych chi eisiau ail-fyw nostalja'r gêm, ewch i dudalen Facebook Gêm y Steddfod., dolen allanol