Yr ifanc a ŵyr? Rowland a Carys Phillips
- Cyhoeddwyd
Mae Rowland Phillips yn ffigwr adnabyddus yn rygbi Cymru - ac i wylwyr cyfres Jonathan ar S4C - ers blynyddoedd. Roedd yn rhan o dîm Castell Nedd yn yr 1980au ac fe chwaraeodd dros Gymru ddeg o weithiau rhwng 1987 a 1990.
Aeth ymlaen i hyfforddi Castell Nedd, Glyn Ebwy, yn ogystal ag yn yr Eidal gydag Aironi a Viadana, ac mae bellach yn hyfforddi tîm rhyngwladol merched Cymru.
Capten y tîm yw ei ferch, Carys, sydd hefyd yn chwarae dros y Gweilch. Cafodd Cymru Fyw air gyda'r ddau ohonyn nhw ynglŷn â'u perthynas a Chwpan Rygbi'r Byd sy'n dechrau ar ddydd Mercher, 9 Awst.
Rowland: Y tad / Yr hyfforddwr
Yn fy nhymor cyntaf yn chwarae dros Gastell Nedd yn yr 1980au roedd fy nhad yn arfer mynd â fi i'r gemau gan nad o'n i'n gyrru. Ond gan mai pysgotwr oedd fy nhad doedd e ddim yn cael y cyfle i 'ngweld i'n chwarae lawer dros y blynyddoedd oherwydd bod y gwaith yn galw.
Ond dwi mor ddiolchgar i Dad achos os bydde'r tywydd yn braf, weithiau bydda fe'n mynd i'r môr yn gynnar tua 4 y bore, er mwyn dod gartre' mewn pryd i fynd 'da fi i Gastell Nedd ar gyfer y rygbi.
Pan o'n i tua naw neu 10 oed y dechreuodd fy niddordeb i yn rygbi. 'Nath un o'r plant yn yr ysgol ofyn i fi os o'n i ishe chwarae dros Dŷ Ddewi, a dyna oedd fy nghlwb cyntaf i.
Roedd brawd hynaf Carys, Lloyd, yn mynd mas i chwarae gyda phêl rygbi gyda'r nos, ac wedyn bydde Carys yng nghanol pethe. O'n i'n gallu gweld yn gynnar bod talent 'da hi i basio yn dda ac ati, ac aeth hi 'mlaen mewn amser i chwarae dros Sgiwen.
'Nath y mab Lloyd 'whare dros Castell Nedd ac ieuenctid Cymru, ac aeth e bant i Seland Newydd ac Awstralia i 'whare 'fyd. Mae e'n chwaraewr da, ac yn chwarae i Trebanos nawr - dwi'n sicr cafodd e ddylanwad da ar Carys i gael hi i mewn i rygbi.
Pan dwi'n edrych ar Carys neu Lloyd yn 'whare fi tipyn bach mwy nerfus achos does dim lot alla'i wneud i newid pethe - mae hynny'n wir fel hyfforddwr yn gyffredinol nid jest fel rhiant.
Dwi'n gweld lot o debygrwydd yn y ffordd mae Carys yn chwarae gyda fy ngyrfa i. Mae hi'n hapus gyda'r bêl yn ei dwylo ac mae hi'n gallu darllen y gêm yn dda iawn. Roeddwn i'n gapten o pryd o'n i'n tua 32 ymlaen, lle mae Carys yn gapten ifanc [24 oed].
Rwy'n gweld lot o aeddfedrwydd yn y ffordd mae hi'n paratoi ac yn siarad efo'r merched ac yn cadw'r merched 'da'u gilydd. Ces i'r gallu i uno tîm yn hwyrach yn fy ngyrfa, ond dwi'n gweld Carys yn gallu'i wneud e'n barod.
Cwpan y Byd 2017
Seland Newydd yw'r ail ddetholion ar gyfer Cwpan y Byd, a Canada sy'n drydydd felly rydyn ni'n gwybod bo' ni mewn grŵp anodd gyda nhw'n dau a Hong Kong.
Dyw'r lefel clwb yng Nghymru ddim digon cryf ar y funud i ferched, felly mae'r naid i rygbi rhyngwladol yn fawr iawn. Ond mae'n grêt chwarae yn erbyn y timau gorau yn y byd achos dyna'r ffordd i ddysgu.
Ar ôl imi hyfforddi mas yn yr Eidal am bedair blynedd nes i feddwl y bydde popeth arall yn rhwydd. Ond mae hyfforddi merched yn rhywbeth hollol wahanol.
Mae'n siŵr mai hwn yw'r job galetaf i mi erioed, ond mae e hefyd y job dwi wedi ei fwynhau fwyaf erioed. Roedd sialens i newid pethe ac rwy' nawr yn dechre gweld y newidiadau hynny yn dwyn ffrwyth.
Carys Phillips: Y ferch / Y capten
Roedd fy nhad a fy nhaid, Brian Thomas, yn ddylanwad mawr ar fy ngyrfa rygbi i - roedd y ddau wedi chwarae yn rhyngwladol dros Gymru.
Roedd gweld y gwaith caled wnaethon nhw i gael chwarae dros eu gwlad yn ysbrydoliaeth i mi ac wedi fy helpu i gyrraedd lle ydw i heddiw. Dwi'n cofio gweld Dad yn chwarae rygbi unwaith ar y teledu, ac oedd o'n eitha' nerve-wrecking.
Ro'n i'n chwarae rygbi gyda fy nghefnder i ddechrau, roedden ni'r un oed. Dechreuais i chwarae pan oeddwn i tua wyth oed yn nhîm y bechgyn yn Sgiwen.
Ar y dechrau roedd y bechgyn yn meddwl: "Be ma'r ferch 'ma'n gwneud fan hyn?" ond fe wnaethon nhw dderbyn pethe yn eitha' clou, a nes i fyth edrych nôl - ro'n i'n caru rygbi.
Mae digon o amser ganddo i a Dad i fod yn rhiant a merch, ond pan dwi'n ymarfer neu yn y cyfarfodydd mae'r berthynas yn sicr yn 'hyfforddwr a chwaraewr'.
Os dwi'n mynd ffwrdd weithiau mae Dad yn fy atgoffa: "Cofia am dy training programme" neu "cer a dy kit efo ti".
Fi'n atgoffa fe 'mod i'n 24 bellach ac yn gwybod beth dwi'n wneud! Chwarae teg, mae e jest ishe rhoi pob cyfle posib imi berfformio ar fy ngorau.
Ond dwi'n meddwl bod gennym ni gydbwysedd da o ran sut ry'n ni'n rheoli hynna ac i ddweud y gwir dyw e ddim yn teimlo'n rhyfedd o gwbl mai fe yw'r hyfforddwr - mae'n rhaid bod yn hollol broffesiynol.
Ma'n rhyfedd, ond dyw'r merched yn y garfan heb dynnu fy nghoes i am y ffaith mai Dad yw'r hyfforddwr - ychydig bach efallai ond dim hanner gymaint â be' o'n i'n ddisgwyl!
Bydd Cwpan y Byd yn her gyda Seland Newydd a Canada yn ein grŵp, ond mae ein paratoadau wedi bod yn dda ac felly gobeithio y daw'r perfformiadau - fel mae'r cliché yn dweud, rhaid cymryd bob gêm un ar y tro.