'Siom' am leihad niferoedd myfyrwyr drama a cherddoriaeth

  • Cyhoeddwyd
Myfyrwyr Drama
Disgrifiad o’r llun,

Mae angen y celfyddydau er mwyn cael "cymdeithas iach", yn ôl Arwel Gruffydd

Fe fydd lleihad diweddar yn nifer y disgyblion ysgol sy'n astudio'r celfyddydau yng Nghymru yn cael "dylanwad hirdymor", yn ôl cyfarwyddwr artistig y Theatr Genedlaethol.

Mae ystadegau Llywodraeth Cymru yn dangos bod 22% yn llai wedi sefyll arholiad TGAU drama dros y tair blynedd ddiwetha' a 24% yn llai yn astudio cerddoriaeth safon uwch dros yr un cyfnod.

Wrth siarad gyda rhaglen y Post Cyntaf, dywedodd Arwel Gruffydd, bod y cwymp yn "siom" a rhybuddiodd bod angen i'r celfyddydau ffynnu er mwyn creu "cymdeithas iach".

Dywedodd y corff arholi CBAC y bydd mwy o gydbwysedd rhwng y celfyddydau a phynciau eraill - o leiaf mewn addysg hyd at 14 oed - pan ddaw adolygiad o'r cwricwlwm i rym.

Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Mr Gruffydd, mae'r cyswllt rhwng addysg a'r theatr yn bwysig er mwyn dyfodol y celfyddydau

Ar faes Eisteddfod Môn, dywedodd Mr Gruffydd bod "cysylltiad agos" rhwng gwaith y theatr a'r sector addysg.

"Mae'r cysylltiad yna'n bwysig, ni yn unig i feithrin cynulleidfa ar gyfer ein gwaith ni, ond hefyd i feithrin gweithwyr theatr ar gyfer y dyfodol", meddai.

"Mae [y lleihad yn y niferoedd] yn siomedig ac yn siŵr o gael rhywfaint o ddylanwad hirdymor ac mae rhywun yn pryderu am hynny".

'Angen ffynnu yn gelfyddydol'

Ychwanegodd ei bod hi'n bwysig bod y celfyddydau "ddim yn cael eu hanghofio" yn y byd addysg, hyd yn oed os oes prinder mewn meysydd eraill hefyd.

"Er mwyn cael cymdeithas iach mae'n rhaid i ni gael ystod eang a chymdeithas sy'n ffynnu yn gelfyddydol yn ogystal ag yn wyddonol ac yn fathemategol.

"Diwylliant llwm iawn fyddai diwylliant mewn unrhyw iaith heb gelfyddyd ffyniannus."

Dywedodd pennaeth yr ysgol gyfun agosaf i'r Eisteddfod - Ysgol Uwchradd Bodedern - bod angen cydbwysedd rhwng pynciau celfyddydol a gwyddonol hefyd.

"Mae 'na ymgyrch fawr wedi bod gan y llywodraeth i hybu pynciau STEM ond 'dan ni ym Modedern wedi rhoi'r 'a' i fewn - sef 'a' am yr arts, celfyddydau - oherwydd mae'n rhaid i chi gael person crwn", meddai Catrin Jones-Hughes.

"Dwi'n poeni ar adegau fod pobl ifanc yn cael eu gwthio gan rieni, gan eu cyfoedion, gan y llywodraeth i ddewis pynciau gwyddoniaeth pan dydyn nhw ddim wir yn wyddonwyr naturiol, ac felly mae'n rhaid i ni fod yn ofalus fod y bobl ifanc yn gweithio ar eu cryfderau a bod nhw'n dewis pynciau maen nhw'n mynd i wneud yn dda ynddyn nhw."

Disgrifiad o’r llun,

Un o'r perfformiadau sydd wedi cael sylw cyn yr Eisteddfod yw Hollti, sy'n dechrau ar 8 Awst

Mae ystadegau Llywodraeth Cymru hefyd yn dangos bod 'na ostyngiad yn nifer disgyblion cerddoriaeth gyda chwarter yn llai yn sefyll arholiad safon uwch yn y pwnc eleni o'i gymharu â 2014.

Mae Llio James yn athrawes gerdd yn Ysgol Bro Hyddgen ym Machynlleth a dywedodd bod statws y pwnc wedi lleihau.

"Dyw e ddim mor bwysig cyn bod chi'n cyrraedd TGAU - er enghraifft, faint o amser sydd ar yr amserlen ar gyfer pynciau creadigol.

"Mae'r pwyslais mawr ar y pynciau craidd a rhifedd a llythrennedd heb falle werthfawrogi fod pynciau creadigol yn gallu cyfrannu mewn ffordd nodedig iawn i lythrennedd ac at rifedd hefyd."

'Dylanwad mwy cytbwys'

Wrth ymateb, dywedodd Gareth Pierce, Prif Weithredwr bwrdd arholi CBAC, bod nifer o ffactorau wedi arwain at y gostyngiad ym mhoblogrwydd y pynciau celfyddydol.

"Mae mwy o oriau dysgu wedi eu rhoi'r pynciau craidd, efallai dan ddylanwad mesuriadau perfformiad a hefyd yr anogaeth i wella safle Cymru yn y profion Pisa", meddai.

Ychwanegodd bod llai o le i ddewis pynciau dewisol ar gyfer TGAU a bod canoli adnoddau ar gyfer pynciau safon uwch yn aml yn golygu teithio.

Ond dywedodd "dylanwad mwy cytbwys" ar y cwricwlwm i ddisgyblion hyd at 14 oed "o fewn y tair i bedair blynedd nesa'" yn sgil adolygiad yr Athro Graham Donaldson o'r cwricwlwm.

"Ond y cwestiwn mawr yw a yw'r newid cytbwys yna yn symud ymlaen a throi'r cydbwysedd 'nôl yn y TGAU a'r Lefel A," meddai.

Mae'r BBC wedi gofyn i Lywodraeth Cymru am ymateb.