Urddo aelodau newydd i'r Orsedd yn Eisteddfod Ynys Môn

  • Cyhoeddwyd
Nia Roberts ac osian RobertsFfynhonnell y llun, Iolo Penri
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Nia Roberts ac Osian Roberts ei hurddo ddydd Gwener

Mae aelodau newydd wedi cael eu hurddo i'r Orsedd yn Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn.

Yn eu plith roedd y chwaraewr rygbi rhyngwladol George North, yr hyfforddwr pêl-droed Osian Roberts, a'r cyflwynydd radio a theledu Nia Roberts.

Rhai o'r unigolion eraill gafodd eu hurddo oedd pennaeth cyfathrebu Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Ian Gwyn Hughes a Wynfford Elis Owen, sy'n adnabyddus am chwarae cymeriad Syr Wynff yn y gyfres deledu Anturiaethau Syr Wynff a Plwmsan.

Cafodd yr ymgyrchydd canser, Irfon Williams, a fu farw ym mis Mai, hefyd ei urddo.

Roedd teyrnged deimladwy iddo yn ystod y seremoni a daeth ei wraig, Rebecca i'r llwyfan i dderbyn tystysgrif ar ei ran.

Ei enw gorseddol oedd Irfon o'r Hirael.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd rhaid cynnal y seremoni yn y babell ddawns oherwydd y tywydd garw

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Irfon Williams ei ddisgrifio fel "un mewn miliwn" yn ystod y seremoni

Roedd rhaid cynnal y seremoni yn y babell ddawns oherwydd y tywydd garw.

Mae'r anrhydeddau'n cael eu cyflwyno'n flynyddol er mwyn cydnabod unigolion ym mhob rhan o'r wlad am eu cyfraniad arbennig i Gymru, y Gymraeg a'u cymunedau lleol.

'Profiad anhygoel'

Ymhlith y rhai eraill oedd yn cael eu hurddo ddydd Gwener oedd cyn bostfeistres Tegryn, Crymych a Hendy Gwyn ar Daf Jean Parri Roberts, y cyfeilydd, beirniad a hyfforddwr Jeanette Massocchi, ac un o athrawon cyntaf Ysgol Bodedern sy'n byw yn Seland Newydd erbyn hyn, June Moseley.

Disgrifiad,

Dydd Gwener yr Eisteddfod Genedlaethol 2017

Dywedodd Ian Gwyn Hughes wedi'r seremoni: "Roedd hi'n ffantastig bod yma heddiw…

"Roedd o'n brofiad anhygoel, y peth mwyaf nerfus oedd mod i'n mynd gyntaf!"

Ychwanegodd Osian Roberts sydd yn frodor o Fôn: "Roedd o'n brofiad anhygoel, yn reit emosiynol i fi, i'r ddau ohona ni.

"Mae 'na gefndir teuluol i mi, mae fy nhad a'n ewythr yn aelodau o'r orsedd.

"Mae 'di bod yn brofiad neis iawn, a rhywbeth unwaith eto i gofio am yr Euros blwyddyn dwytha er bod hi sbel yn ôl bellach."

Syr Wynff ap Concord y Bos

Dewisodd Wynfford Elis Owen yr enw Syr Wynff ap Concord y Bos fel ei enw gorseddol ac roedd bloedd o chwerthin pan gafodd yr enw ei gyhoeddi.

"Mae llawer o bobl yn fy 'nabod i felly, hwnna oedd yr enw addas a fedrwn i ddim dewis dim byd arall!"

Disgrifiad o’r llun,

"Teimladau cymysg" ynglŷn â'r diwrnod oedd gan y ddarlledwraig Nia Roberts

Ychwanegodd ei fod yn teimlo "anrhydedd" i gael bod yn rhan o'r Orsedd.

"Dwi 'di neud lot o waith yn y cyfryngau fel Syr Wynff, dramâu ac yn y blaen, ond dwi'n meddwl mai'r neges bwysig yn hon ydy mod i'n un sydd wedi adfer o alcohol a chyffuriau.

"Mae'n anfon neges bositif a cadarnhaol allan i bobl fatha fi bod hi'n bosib integreiddio a chwarae rhan llawn 'nôl yn y gymdeithas Gymreig."

Disgrifiad o’r llun,

Sior o'r Gogledd yw enw gorseddol George North

Dywedodd George North, a gafodd ei fagu yn Ynys Môn ac aeth i Ysgol Uwchradd Bodedern, cyn y seremoni ei fod wrth ei fodd cael ei urddo.

"Mae'n enfawr. Roeddwn i'n siarad gyda Robin [McBryde] am y peth, mae'n beth mawr i'r Eisteddfod a pheth mawr i Gymru."

Dywedodd ei fod wedi trafod y diwrnod gyda'i gyfoedion yn nhîm rygbi Northampton.

"[O'n i] yn cael sgwrs gyda Jim Mallinder [prif hyfforddwr Northampton] i drio deutha fo beth oedd y Steddfod, oedd o'n cymryd bach o amser!

"I fi, dwi mor prowd i gael e, a hapus i fod yma heddiw."