Penodi Christine James yn Gofiadur newydd i'r Orsedd
- Cyhoeddwyd
Christine James yw Cofiadur newydd Gorsedd y Beirdd.
Cafodd ei henw ei gyhoeddi gan Orsedd y Beirdd ar faes yr Eisteddfod ym Modedern ddydd Iau.
Bydd yn olynu Penri Tanat, sy'n ymddeol o'r swydd ar ôl saith mlynedd a hanner, gan gychwyn ar y gwaith yn syth ar ôl yr Eisteddfod.
Christine James oedd y ddynes gyntaf i'w hethol yn Archdderwydd a'r ddynes gyntaf i fod yn Gofiadur yr Orsedd.
Gwasanaethodd o 2013 tan 2016, gan gwblhau'r gwaith yn Seremoni Gyhoeddi Eisteddfod Ynys Môn y llynedd.
Hi hefyd yw'r dysgwr cyntaf i ymgymryd â phrif swydd Gorsedd y Beirdd.
'Dod â hiwmor i'r Orsedd'
"Wy'n hynod o falch o'r cyfle yma i wasanaethu'r Orsedd ymhellach", meddai'r Prifardd Christine.
"Mae gan yr Orsedd rôl bwysig iawn i'w chwarae yn y Gymru sydd ohoni, ac mae'n gorff sy'n dyrchafu'r pethau gorau mewn bywyd Cymraeg.
"Wy'n edrych ymlaen at gael gwasanaethu'r Orsedd, a gwneud hynny gobeithio yn urddasol a chydwybodol, ond hefyd gydag ychydig o hiwmor."
Daw Christine James yn wreiddiol o Donypandy yng Nghwm Rhondda.
Wedi'i magu ar aelwyd uniaith Saesneg fe ddysgodd y Gymraeg fel ail iaith tra'n ddisgybl yn Ysgol Ramadeg y Merched, Y Porth, cyn mynd ymlaen i ennill gradd anrhydedd dosbarth cyntaf yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Mae'n briod â Wyn James ac yn fam i Eleri, Emyr ac Owain.
Enillodd y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Eryri a'r Cyffiniau 2005, am ei chasgliad o gerddi, Lluniau Lliw. Cafodd y gwaith ei ysbrydoli gan rai o weithiau celf mwyaf adnabyddus Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.
Bu hefyd ymhlith enillwyr y gystadleuaeth farddoniaeth ryngwladol Féile Filíochta ar sawl achlysur, ac roedd yn fardd gwadd Y Lle Celf yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd a'r Cylch 2008.
Fe'i derbyniwyd i'r Orsedd yn 2002, ac mae'n aelod o Fwrdd yr Orsedd ers 2010.
Ystyried un enw yn unig
Y Cofiadur yw Ysgrifennydd Gorsedd y Beirdd sydd â'r cyfrifoldeb o arolygu gweithgareddau'r Orsedd.
Mae'n un o'r prif swyddogion ar y Maen Llog, ac yn gyfrifol am seremonїau'r Orsedd ar lwyfan yr Eisteddfod ac yn y Cyhoeddi.
Dywedodd Penri Roberts bod is-bwyllgor wedi'i ffurfio i ystyried olynydd, a'i fod wedi "dod ag un enw, ac un enw yn unig yn ôl, sef y cyn-Archdderwydd, y Prifardd Christine James".
"Dwi'n hollol sicr bod yr Orsedd mewn dwylo da iawn, iawn, a dwi'n dymuno pob llwyddiant iddi yn ei gwaith", meddai.