Pryder bod troseddau cefn gwlad yn cynyddu
- Cyhoeddwyd
Mae'n ymddangos bod llai o achosion o ddwyn yng nghefn gwlad wedi bod yn 2016 - ond bod nifer yr achosion wedi cynyddu'n sylweddol dros chwe mis cyntaf 2017.
Yn ôl ffigyrau newydd gan gwmni yswiriant NFU Mutual, sy'n arbenigo mewn busnesau gwledig, roedd 'na gwymp yng Nghymru o 7.5% y llynedd yn nifer yr achosion o ddwyn yng nghefn gwlad.
Ond mae ffigyrau cynnar ar gyfer ceisiadau yswiriant yn hanner cyntaf 2017 yn dangos cynnydd o 20% ar draws Prydain.
Does dim ffigyrau ar gyfer Cymru yn benodol eto, ond mae'r cynnydd yma'n peri pryder am don newydd o drosedd gwledig yn ôl yr yswirwyr.
Beiciau cwad, cerbydau Land Rover Defender, offer a da byw ydy'r pethau sy'n cael eu targedu bennaf yng Nghymru.
Dros nos yr wythnos ddiwetha', cafodd gwerth miloedd o bunnau o offer eu cymryd o shed Bryn Jones ar gwrs golff y Fedwen Arian ym Metws yn Rhos.
"Mi a'th blowars, strimmers, chainsaws, compresser, power washer, pob math o bethe - rhywbeth elli di bron jest i bigo i fyny.
"O ran y gost, rhyw £7,000 i £8,000," meddai Bryn Jones.
"O ran y damage - o'n i'm yn meddwl bod nhw 'di neud llawer o damage i'r RTV 'ma - roedden nhw di malu windscreen a'r teiars. Ond drwy adio nhw i gyd i fyny mae hwnnw bron i £1,000, cyn cychwyn cyfri ar be ma' nhw 'di gario.
"Mae 'na beth wmbreth o bobl di ffonio, 'di cydymdeimlo, ac eraill yn dweud eu bod nhw di cael union yr un peth - motobeics oddi ar ffermydd da nhw yn bennaf. A does 'na ddim golwg amdanyn nhw. Ma nhw'n recno bo nhw'n Iwerddon neu yn bellter yn rhywle cyn bo neb yn dallt bo nhw di mynd."
Mae Aled Jones yn asiant yswiriant i'r cwmni yn ardal Wrecsam. "Rhan fwyaf o'r amser, falle nad yw ffermwyr wedi dysgu'r un gwersi ac mae pobl yn yr ardaloedd mwy trefol wedi ei dysgu'n barod, megis cadw pethau wedi'u cloi i fyny, ac yn rhoi lot mwy o bwyslais ar ofalu am bethau yn hytrach na gadael goriadau i mewn (cerbydau) ac ati."
Effaith ar y llinach
Mae 'na bryder hefyd bod nifer fawr o ŵyn wedi bod yn cael eu dwyn i'w lladd - a bod y cig yn mynd i'r gadwyn fwyd yn anghyfreithlon.
Yng Nghymru, cododd y gost o ddwyn anifeiliaid o £100,000, lle'r oedd 'na gwymp ym mhob man arall ym Mhrydain.
Yn ôl Elwyn Evans, sy'n gadeirydd bwrdd Ynys Môn Undeb NFU Cymru, gall colledion da byw fod yn drychinebus.
"Un peth am beiriannau neu twls, fe fedrwch chi yswirio nhw, fe fedrwch chi gael rhai newydd," meddai.
"Ond oes 'na anifeiliaid pedigree yn cael eu dwyn, mae gynnoch chi linach ella bo chi di bod drwy'ch oes yn perffeithio yn diflannu dros nos. A fedrith hynna ddim cael ei brynu i fewn - mae gynno pawb eu pedigree unigol eu hunain ynde."