Agor Ysgol Gymraeg Y Trallwng yn 'fyd o wahaniaeth'

  • Cyhoeddwyd
Ysgol y Trallwng
Disgrifiad o’r llun,

Dyma'r ysgol cyfrwng Cymraeg gyntaf yn yr ardal

Bydd agor ysgol Gymraeg newydd ym Mhowys yn gwneud "byd o wahaniaeth", yn ôl y pennaeth.

Ysgol Gymraeg y Trallwng yw'r gyntaf yn y dre' ac mae'n croesawu 76 o ddisgyblion wrth agor ei drysau ddydd Llun.

Dywedodd y pennaeth, Bethan Bleddyn, bod ei sefydlu'n ateb galw yn lleol ac yn gyfle i "drwytho'r iaith yn ddyddiol".

Yn ôl Cymdeithas yr Iaith, mae'r agoriad yn "gam pwysig" ond mae angen i Gyngor Powys "ymroi i hyrwyddo'r ysgol".

'Byd o wahaniaeth'

Yn y gorffennol, roedd addysg Gymraeg ar gael yn y Y Trallwng drwy ffrydiau yn Ysgol Fabanod Ardwyn ac Ysgol Gynradd Maesydre.

Ond yr ysgol newydd - gafodd ei chyhoeddi ym mis Ionawr - yw'r ysgol benodol cyfrwng Cymraeg gyntaf yn yr ardal.

Mae Bethan Bleddyn yn dweud bod hynny'n gyfle i "drwytho a bwydo'r iaith yn ddyddiol" mewn ysgol lle bydd y "mwyafrif helaeth" yn dod o aelwydydd di-Gymraeg.

Am y tro, bydd yr ysgol ar hen safle Ysgol Fabanod Ardwyn ond bydd yn symud yn barhaol i hen safle Ysgol Gynradd Maesydre "ymhen dwy flynedd".

Ysgol y Trallwng

Dywedodd Ms Bleddyn mai'r "her" i'r ysgol nawr yw "cynyddu niferoedd" y disgyblion cyn iddyn nhw symud i'r adeilad newydd.

Ychwanegodd ei bod yn credu bod 'na alw am fwy o ddarpariaeth addysg Gymraeg yn yr ardal, gan gynnwys addysg uwchradd.

'Cam pwysig'

Fe ddywedodd ymgyrchydd lleol ei bod yn "falch iawn"o weld yr ysgol yn agor a'i fod yn "gam pwysig".

Dywedodd Nia Llywelyn o Gymdeithas yr Iaith mai "brwdfrydedd y bobl leol" arweiniodd at sefydlu'r ysgol a bod angen i Gyngor Powys " ymroi i hyrwyddo'r ysgol... i bob teulu o ba bynnag gefndir yn y Trallwng".

Ychwanegodd: "Rhaid hefyd paratoi ar gyfer rhagor o ysgolion Cymraeg yn y sir ar frys, a symud ysgolion presennol lan y continwwm iaith.

"Yn y pen draw, rhaid i bawb ym Mhowys gael addysg fydd yn eu galluogi i ddefnyddio'r Cymraeg - mae'r mwyafrif helaeth yn cael eu hamddifadu ar hyn o bryd."