Undebau yn erbyn newid deddfau'n ymwneud â chefn gwlad
- Cyhoeddwyd
Mae ymgynghoriad gan Lywodraeth Cymru sy'n edrych ar newid deddfau'n ymwneud â chefn gwlad yn "gwbl anghyfiawn", yn ôl undebau amaethyddol mwyaf Cymru.
Ymhlith y newidiadau sy'n cael eu hystyried mae'r syniad o roi hawl i bobl seiclo a marchogaeth ar lwybrau cyhoeddus.
Dyw Undeb Amaethwyr Cymru na'r NFU ddim yn hapus gyda'r argymhellion.
Ond yn ôl Llywodraeth Cymru, y nod ydy deall mwy am farn pobl tuag at greu trefn fwy modern, syml ac effeithiol.
Mae newidiadau hefyd yn cael eu hargymell ar gyfer coedwigaeth, pysgota, chwaraeon ac amaethyddiaeth.
'Ddim yn deg'
Mae llywydd yr FUW, Glyn Roberts wedi dweud nad oedd yn ymwybodol o'r ymgynghoriad.
"Dwi'm yn credu ei bod hi'n deg o gwbl arnom ni fel diwydiant ac fel undeb nad yw'r llywodraeth wedi rhoi unrhyw rybudd ynglŷn â'r ddogfen na'r ymgynghoriad yma," meddai.
Dywedodd Hedd Pugh o Undeb Amaethwyr Cymru: "Un o'r prif broblemau yw bydd pobl sy'n marchogaeth ac yn seiclo yn gallu defnyddio'r llwybrau cyhoeddus i fynd i unrhyw le.
"Mae rhai o'r llwybrau yn mynd drwy lefydd peryglus, felly mae oblygiadau iechyd a diogelwch."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Pwrpas yr ymgynghoriad yw cael gwell dealltwriaeth o farn rhanddeiliaid ar fframwaith rheoleiddio mwy modern, symlach ac effeithiol.
"Drwy ddod â chynigion at ei gilydd mewn un ymgynghoriad, rydym yn darparu'n union beth y gofynnodd ein rhanddeiliaid amdano - dull mwy cyd-gysylltiedig."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Medi 2017