Galw am 'gymodi' yn dilyn gwaharddiad Neil McEvoy
- Cyhoeddwyd

Mae cangen Plaid Cymru yng Ngorllewin Caerdydd wedi dweud fod gan Neil McEvoy eu "cefnogaeth" wedi iddo gael ei wahardd o grŵp y blaid yn y Cynulliad.
Ond mewn cynhadledd i'r wasg ddydd Iau, fe gadarnhaodd AC Canol De Cymru nad oedd y bleidlais ymysg yr aelodau i'w wahardd wedi bod yn unfrydol.
Dywedodd un ffynhonnell fod y cyfarfod wedi bod yn un "tanllyd", a'i fod yn "wahanol i'r tro diwethaf y cafodd ei wahardd".
Mae'r aelodau lleol nawr wedi galw ar ACau Plaid Cymru i "gymodi" â Mr McEvoy.
'Aflonyddwch'
Ddydd Mawrth cafodd Mr McEvoy, sydd hefyd yn gynghorydd yn ward Tyllgoed y brifddinas, ei wahardd ar ôl cael ei gyhuddo o "dorri rheolau" y blaid.
Mae'n debyg fod ei gyd-aelodau wedi bod yn anhapus â'r modd iddo anghytuno â safbwynt Plaid Cymru ar werthu tai cyngor.
Dywedodd arweinydd y blaid, Leanne Wood ei fod "wedi tynnu sylw a chreu aflonyddwch".
Mae'n golygu yn ymarferol fod Mr McEvoy mwy neu lai yn Aelod Cynulliad annibynnol.

Dywedodd Leanne Wood nad oedd hi am "ganiatáu ymddygiad sy'n tanseilio undod a chyfanrwydd" Plaid Cymru
Yn dilyn cyfarfod o aelodau Plaid Cymru yng Ngorllewin Caerdydd wedi'r gwaharddiad, dywedodd y gangen mewn datganiad eu bod yn "cydnabod ac yn gwerthfawrogi gwaith Neil McEvoy" fel AC a chynghorydd.
"Rydyn ni eisiau gweld cymodi o fewn grŵp Plaid Cymru yn y Cynulliad, a bod parch a gwerthfawrogiad yn cael ei ddangos tuag at bob aelod.
"Mae gan Neil McEvoy ein cefnogaeth i gael ei dderbyn yn ôl fel aelod o'r grŵp."
Eisiau dychwelyd
Mewn cynhadledd i'r wasg ddydd Mercher, dywedodd Mr McEvoy fod "teimlad cryf" yng nghyfarfod y gangen fod angen bwrw 'mlaen â "dwyn y llywodraeth i gyfrif".
"Mae pobl yn aml yn anghytuno. Roedd pleidlais gref o blaid fy nghefnogi i," meddai.
Ychwanegodd fod "dau neu dri pherson â hawl i gael barn" ond nad oedd wedi bod yn yr ystafell pan gynhaliwyd y bleidlais.
Pan ofynnwyd iddo am ei farn ar Leanne Wood yn dilyn ei sylwadau hithau ddydd Mawrth, dywedodd: "Does gen i ddim i'w ddweud am hynny. Dwi ar y record yn cefnogi Leanne.
"Does gen i ddim byd negyddol i'w ddweud am unrhyw un ym Mhlaid Cymru. Dwi'n falch iawn o'r gefnogaeth gref ges i ddoe."
Ychwanegodd: "Yn amlwg hoffwn fod yn rhan o grŵp Plaid Cymru eto."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Medi 2017