Galw i allu gwneud cais am brawf chlamydia am ddim

  • Cyhoeddwyd
ChlamydiaFfynhonnell y llun, Getty Images

Dylai pobl allu gwneud cais ar-lein am brofion a thriniaeth ar gyfer chlamydia yng Nghymru, yn ôl arbenigwr iechyd rhyw.

Cafodd fwy na 58,000 o bobl Cymru eu profi am yr haint yn 2015, ac roedd 5,575 o'r rheiny yn bositif.

Mae profion a thriniaeth yn gallu costio tua £25, ond maen nhw am ddim os yw pobl yn ymweld â meddyg teulu neu glinig iechyd rhyw.

Dywedodd Llywodraeth Cymru bod adolygiad yn cael ei gynnal i wasanaethau iechyd rhyw.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Dr Olwen Williams yn dweud bod gwasanaeth o'r fath ar gael am ddim mewn rhannau o Loegr

"Y broblem yng Nghymru yw cael mynediad at brofion," meddai Dr Olwen Williams, meddyg ymgynghorol yn Ysbyty Maelor Wrecsam.

"Ar hyn o bryd dyw hi ddim yn bosib cael profion am ddim ar-lein yng Nghymru. Rydyn ni eisiau Llywodraeth Cymru i ariannu system ble gall pawb gael mynediad at brawf trwy'r we.

"Gallan nhw ateb ychydig o gwestiynau, derbyn prawf ac yna ei yrru 'nôl i'w brofi."

Ychwanegodd Dr Williams bod gwasanaeth o'r fath ar gael am ddim mewn rhannau o Loegr.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cynnal adolygiad o'r gwasanaeth iechyd rhyw - wedi'i gomisiynu gan Lywodraeth Cymru - ac mae disgwyl y canlyniadau yn gynnar yn 2018.