Lluniau: BAFTA Cymru 2017
- Cyhoeddwyd
Roedd y carped coch yn llawn sêr ar nos Sul 08 Hydref ar gyfer seremoni wobrwyo BAFTA Cymru. Dyma i chi rai o'r uchafbwyntiau. Sioned Birchall oedd ffotograffydd Cymru Fyw yn y digwyddiad:

Mae 'na brysurdeb wrth i'r sêr gyrraedd Neuadd Dewi Sant

Deian a Loli oedd enillwyr poblogaidd y rhaglen blant orau

Cafodd Gwobr Arbennig BAFTA ei chyflwyno i John Rhys Davies

Un o gyflwynwyr y noson oedd Emma Walford, un o'r tair Eden

Cafodd Jonny Owen ei enwebu am ei ffilm ddogfen 'Don't Take Me Home' am haf bythgofiadwy Cymru yn yr Ewros. Mae ei bartner Vicky McClure yn wyneb cyfarwydd mewn cyfresi drama fel 'Line of Duty' a 'This is England'

"Ffansi'ch gweld chi'ch dau yma!" Bydd y seremoni yn siŵr o gael sylw ar Wales Today a Heno!

Euros Lyn oedd y Cyfarwyddwr Gorau am ei waith ar ffilm Y Llyfrgell

Amser am hunlun!

Caryl ar y carped coch. Hi oedd awdur Albi a Noa yn Achub yr Iwnifyrs

Y gantores leol Lucie Jones o Bentyrch fu'n perfformio ar y noson

Roedd hi'n noson arloesol i Elin Fflur. Bu hi'n datgelu'r enillwyr trwy gyfrwng Facebook Live