Arholiadau TGAU cynnar yn 'risg' i addysg disgyblion
- Cyhoeddwyd
Gallai addysg nifer o ddisgyblion sydd yn sefyll eu harholiadau TGAU yn gynnar fod yn fantol medd rheoleiddiwr arholiadau.
Roedd bron un o bob pump papur arholiad Saesneg Iaith, Cymraeg a Mathemateg yn yr haf gan ddisgyblion 15 oed.
Yn ôl Cymwysterau Cymru, wnaeth gynnal yr adolygiad, un ffactor oedd bod ysgolion dan bwysau i berfformio'n dda.
Mae'r Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams, nawr wedi cyhoeddi rheolau newydd fel bod "lles disgyblion yn cael eu rhoi gyntaf".
Daw hyn wedi argymhellion gan y corff, oedd yn dweud bod cofrestru disgyblion yn gynnar yn golygu bod yna "risg sylweddol" i'w haddysg.
Dyma fydd yn newid:
Y ffordd y bydd Llywodraeth Cymru yn mesur perfformiadau ysgol felly dim ond gradd gyntaf disgybl fydd yn cyfri tuag at fesur perfformiad yr ysgol. Ar hyn o bryd mae ysgolion yn gallu cofnodi'r graddau gorau gan ddisgybl os ydyn nhw wedi sefyll yr arholiad sawl gwaith.
Rhoi'r gorau i'r cyfyngiadau ynglŷn â Saesneg Iaith a Chymraeg Iaith sydd yn golygu bod myfyrwyr mond yn gallu ail sefyll yr arholiad ym mis Tachwedd. Mae'r rheoleiddiwr yn credu y bydd hyn yn golygu y bydd lles y disgyblion wedi eu hystyried cyn gofyn iddynt wneud yr arholiad TGAU yn gynnar ac yn lleihau'r amser paratoi ar gyfer yr arholiadau
Mae'r corff hefyd yn amcangyfrif bod ysgolion wedi gwario mwy na £3.3m yn ystod y flwyddyn academaidd 2016-17 ar arholiadau cynnar
Yn ystod yr adolygiad, wnaeth bara 10 mis, dywedodd Cymwysterau Cymru bod y pwnc yn un cymhleth a'u bod wedi derbyn ystod o ymateb gyda rhai o blaid a rhai yn erbyn.
Roedd rhai athrawon wedi dweud nad oedd rhai disgyblion yn cyrraedd eu potensial wrth fethu blwyddyn o ddysgu, yn enwedig mewn pynciau fel Saesneg.
Un sydd yn gwrthwynebu gofyn i ddisgyblion sefyll eu harholiadau yn gynnar yw David Williams, tiwtor mathemateg yng Nghwm Gwendraeth sy'n pryderu fod "plant yn cael eu rhoi mewn am arholiadau pan mae'n amlwg nad yw'r ysgol wedi gorffen y cwrs."
'Gwasgu' cwrs
"Mae enghreifftiau lle mae ysgolion wedi rhoi plant mewn blwyddyn yn gynnar, felly ar ddiwedd Blwyddyn 10, neu enghreifftiau lle maen nhw wedi cael eu rhoi mewn ym mis Tachwedd Blwyddyn 11, rhyw saith mis yn gynnar," meddai.
"Mae'n amlwg bod y plant ddim wedi cael dysgu'r cwrs i gyd. Mae'r cwrs wedi cael ei wasgu, cwrs dwy flynedd mewn i flwyddyn."
Nid pawb sydd yn rhannu'r farn honno fodd bynnag.
"Rydw i hollol o blaid sefyll yr arholiadau'n gynnar," meddai Armando Di-Finizio, Pennaeth Ysgol Eastern High yng Nghaerdydd.
"Bydden i'n gwahodd unrhyw un i ddod mewn a holi'n disgyblion ni... waeth beth oedd eu gradd nhw, maen nhw nawr wedi eu hysgogi i wybod beth sydd angen ei wneud."
Dewis iawn i rai
Dywedodd Prif Weithredwr Cymwysterau Cymru, Philip Blaker: "Dydyn ni ddim yn dadlau o blaid gwaharddiad llwyr ar sefyll arholiadau yn gynnar achos ar gyfer rhai disgyblion dyna o bosib fyddai'r penderfyniad cywir.
"Er enghraifft, pan mae unigolion wedi meistroli eu cwrs ac yn barod i symud ymlaen i gael cymhwyster mwy heriol.
"Gall fod y penderfyniad iawn hefyd ar gyfer myfyrwyr sydd mewn perygl o adael yr ysgol cyn gorffen blwyddyn 11."
Yn ôl Kirsty Williams mae TGAU wedi ei lunio fel bod disgyblion yn sefyll yr arholiad ar ôl dwy flynedd, nid un.
"Dw i'n pryderu bod myfyrwyr sydd gyda'r potensial i gael A*, A neu B ar ddiwedd cwrs dwy flynedd yn gorfod setlo am C.
"Yn rhy aml mae hyn oherwydd eu bod nhw'n yn gwneud eu harholiad rhy gynnar a ddim yn ail sefyll yr arholiad eto," meddai.
"Dw i eisiau i bob plentyn gyrraedd eu llawn botensial yn yr ysgol. Dim ond lleiafrif o ddisgyblion ddylai wneud eu harholiadau yn gynnar am eu bod yn mynd i elwa."